CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Amdani: Pass y Sugnydd Llwch Darling

Gomer

Cyfres Amdani: Pass y Sugnydd Llwch Darling

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Mari George, Rhodri Owen, Lucy Owen
ISBN: 9781785622403
Dyddiad Cyhoeddi: 09 Tachwedd 2018
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 210x147 mm, 44 tudalen
Iaith: Cymraeg
Llyfr o gyfres Amdani i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae Rhodri yn gweithio fel cyflwynydd ar raglen 'Heno' i S4C ac mae Lucy yn darllen y Newyddion ar y BBC. Mae'n benblwydd ar eu mab Gabs ac mae'r teulu yn penderfynu mynd am dro i ardal Ogwr.

A book for Welsh learners, Entry Level (Mynediad), about Rhodri, who is a native Welsh speaker, and Lucy, his wife who has just started learning.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Mari George yn byw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n gyfieithydd ac yn awdur nofelau i blant, ynghyd â bod yn fardd ac yn llenor profiadol sydd wedi ennill Medal Lenyddiaeth a Chadair Eisteddfod yr Urdd.

Mae Rhodri a Lucy Owen yn gweithio yn y cyfryngau, Rhodri ar
raglenni Cymraeg megis Prynhawn Da a Heno a Lucy ar raglenni newyddion BBC Wales. Mae Lucy wedi bod yn dysgu Cymraeg
ac yn 2016 cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf i blant Bw-a-Bog yn y
Parc
.
Gwybodaeth Bellach:
Mae’n heulog iawn ac mae Gabs wedi anghofio ei sbectol haul. Mae Lucy newydd ddychwelyd o gwrs dwys dysgu Cymraeg ac yn benderfynol o beidio siarad dim ond Cymraeg. Wrth y dŵr mae Rhodri’n rhybuddio
Gabs i fod yn ofalus ar y cerrig camu, rhag iddo wlychu. Mae Gabs yn gollwng y sbectol haul i’r dŵr. Mae’r rhieni yn dadlau pwy ddylai fynd i mewn i’r dwr i achub y sbectol. Dyw Rhodri ddim eisiau difetha steil ei wallt gan ei fod yn gorfod gweithio y noson honno. I ganol hyn i gyd daw ci’r teulu. Mae rhywun yn wlyb iawn ar ddiwedd y stori ac yn gwisgo dillad ofnadwy o anffasiynol, ond mae Gabs a’r ci yn hollol sych! Tybed pwy sy’n diferu?