CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cofiant Hedd Wyn

Alan Llwyd

Cofiant Hedd Wyn

Pris arferol £14.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alan Llwyd

ISBN: 9781784610425
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Tachwedd 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 248x168 mm, 352 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cofiant wedi'i seilio ar gyfrol flaenorol yr awdur, Gwae Fi fy Myw: Cofiant Hedd Wyn (1991), yn cynnwys ffrwyth ymchwil bellach a llawer o wybodaeth newydd a dadlennol am y bardd o ardal Trawsfynydd.

Bywgraffiad Awdur:
Y mae Alan Llwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Coleg y Celfyddydau a Dyniaethau, Prifysgol Abertawe. Cyhoeddwyd ei gofiant i Waldo Williams, sef y trydydd cofiant mewn pedwarawd o gofiannau, ychydig fisoedd cyn cyhoeddi’r fersiwn newydd hwn o gofiant Hedd Wyn. Eisoes cyhoeddwyd Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 a Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, llyfr a enillodd y categori ffeithiol-greadigol yn Llyfr y Flwyddyn eleni.
Gwybodaeth Bellach:
Ffrwyth yr ymchwil a wnaed yn wreiddiol ar gyfer sgriptio’r ffilm Hedd Wyn oedd argraffiad 1991 o’r cofiant. Trwy gydol y blynyddoedd oddi ar hynny, bu Alan Llwyd yn darlithio ar Hedd Wyn a bu’n chwilio am ddeunydd a gwybodaeth newydd amdano ef a’i farddoniaeth trwy’r amser.
Mae’r fersiwn newydd hwn yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth newydd am Hedd Wyn, fel y llythyr dadlennol a anfonodd o’r Ffrynt at Isaac Davies, Ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, ychydig wythnosau cyn iddo gael ei ladd. Beth yn union a ddigwyddodd yn Eisteddfod y Gadair Ddu? Sut effaith gafodd marwolaeth Hedd Wyn ar Gymru ar y pryd?