CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Chwedlau'r Ddraig: Cwm y Wrach

Meilyr Siôn

Chwedlau'r Ddraig: Cwm y Wrach

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Meilyr Siôn

ISBN: 9781912261789 
Dyddiad Cyhoeddi: 09 Hydref 2020
Cyhoeddwr: Atebol, Aberystwyth
Darluniwyd gan PHILIP HUCKIN
Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 112 tudalen
Iaith: Cymraeg

Daw hen chwedl yn fyw yn y stori antur fodern hon. Lleolir y nofel ger Aberaeron, a dilynwn Daisy, merch 11 oed, a'i theulu ar ôl iddynt symud i'r ardal o'r gogledd i gadw canolfan arddio.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Daw Meilyr Siôn o Aberaeron yn wreiddiol ond bellach mae’n byw yn y Barri gyda’i deulu. Yn awdur, cyflwynydd ac yn actor llawrydd mae Meilyr wedi ysgrifennu sawl nofel i blant, gan gynnwys Hufen Afiach a gyhoeddwyd gan Atebol yn 2018. Mae eisioes wedi cyfrannu at raglen Tic Toc ar Radio Cymru ac wedi trosleisio cartŵnau plant ar S4C.


Gwybodaeth Bellach:
Un diwrnod, mae Daisy yn benthyg llyfr chwedlau eithaf cyffredin ei olwg o’r Ffair Lyfrau flynyddol yn yr ysgol. Nid oes ganddi fawr o obaith am y llyfr anniddorol, nes iddi gael ei thaflu oddi ar ei beic ar ei thaith adref o’r ysgol... dyna pryd mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd! Wrth ddychwelyd adref, yn dilyn ei gwrthdrawiad ar y beic, mae Daisy yn argyhoeddedig ei bod wedi cwrdd â Mari Perllan Pedr, gwrach o chwedl leol adnabyddus. Ond sut y gall hynny fod yn bosib?
Dilynwch antur ddirgel Daisy wrth iddi geisio darganfod y gwir a chesio achub busnes ei theulu yn Arthen Fach ar yr un pryd.
• Y cyntaf mewn cyfres newydd i blant
• 14 pennod byr, bachog
• Stori gyffrous, llawn dirgelwch a fydd yn siŵr o fachu sylw’r darllenydd
• Themâu amgylcheddol cyfredol fel ffracio wedi’u plethu’n lwyddiannus i mewn i’r stori