CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Goresgyn Dicter a Thymer Flin

William Davies

Goresgyn Dicter a Thymer Flin

Pris arferol £12.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: William Davies

ISBN: 9781784619237 
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Awst 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 233x153 mm, 300 tudalen
Iaith: Saesneg

Mae tymer flin a hyd yn oed ysbeidiau achlysurol o dymer ddrwg yn gallu creu anawsterau yn eich perthynas â ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr gan eich gadael yn teimlo’n anhapus ac yn lluddedig. Os yw hynny’n wir yn eich achos chi, gall y llyfr hwn fod o gymorth mawr i chi.

Bywgraffiad Awdur:
Mae WILLIAM DAVIES yn seicolegydd ymgynghorol ac yn Gyfarwyddwr Academaidd y Gymdeithas Therapïau Seicolegol (APT), sefydliad sydd wedi hyfforddi dros 100,000 o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio gyda thymer flin, dicter, ymddygiad ymosodol a thrais.
Gwybodaeth Bellach:
Mae William Davies yn esbonio beth sy’n ein gwneud ni’n ddig a beth allwn ni ei wneud i atal hynny. Mae technegau seicolegol cyfoes yn cynnig dull cadarnhaol o fynd ati gyda nodau hirdymor mewn golwg, ac yn dangos sut gallwch chi fynd i’r afael â sefyllfaoedd a fyddai’n dreth ar unrhyw un!
• Mae’n cynnwys rhaglen hunangymorth gyflawn a thaflenni monitro
• Mae’n esbonio pam mae tymer flin a dicter yn datblygu a beth allwn ni ei wneud yn eu cylch
• Mae’n disgrifio sut i wella ansawdd cyffredinol eich bywyd am byth
• Mae’n cynnig enghreifftiau ac astudiaethau achos esboniadol
• Mae’n cynnwys canllaw cywiro diffygion grymus