CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Safana

Jerry Hunter

Safana

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Jerry Hunter

ISBN: 9781800990395
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Mehefin 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 214 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel newydd gyffrous gan un o awduron gorau Cymru. Mae Safana yn ailddychmygu hanes caethwasiaeth yn Georgia ac yn bygwth rhoi ‘cyfle arall’ i un o’r ffigyrau mwyaf dadlennol ar adeg ansefydlog iawn.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Yn enedigol o Cincinnati, Ohio, UDA, mae Jerry Hunter yn Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Mae wedi darlithio ym Mhrifysgol Harvard a Phrifysgol Caerdydd. Mae'n byw gyda'i deulu ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle. Dyma ei chweched nofel.

Gwybodaeth Bellach:
1770 yw'r flwyddyn bresennol. Dywed y doethion fod rhyfel ar y ffordd. Beth fydd hanes George Whitefield yn hanes caethwasiaeth? Beirniadodd y driniaeth greulon yr oedd caethweision yn ei ddioddef. Pan sefydlodd gartref plant amddifad ar gyrion Savannah, sicrhaodd y byddai plant o dras Affricanaidd yn cael eu croesawu a'u haddysgu yno. Ond eto daeth i wrthwynebu gwaharddiad Georgia ar gaethwasiaeth.

Gwobrau:
Enillodd nofel gyntaf Jerry Hunter, sef Gwenddydd, y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010. Cyhoeddodd Gwreiddyn Chwerw yn 2012 a dwy nofel – Ebargofiant ac Y Fro Dywyll – yn 2014. Cyhoeddodd Ynys Fadog yn 2019. Cafodd Y Fro Dywyll ei henwebu am wobr Llyfr y Flwyddyn 2015 ac Ynys Fadog ei henwebu yn 2019.