Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Cyfres Amdani: Gorau Glas

Lois Arnold

Cyfres Amdani: Gorau Glas

Regular price £4.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Lois Arnold

ISBN: 9781784618681
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Awst 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Darluniwyd gan Carl Pearce
Fformat: Clawr Meddal, 210x150 mm, 68 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel fer i ddysgwyr Lefel Mynediad ar ffurf cyfres o straeon am anturiaethau y swyddog heddlu Alix Jenkins, gyda geirfa ar bob tudalen a lluniau du a gwyn gan yr artist Carl Pearce. Rhan o brosiect darllen cyffrous Amdani i ddysgwyr.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Mae Lois Arnold yn awdur ac yn diwtor Cymraeg profiadol. Mae'n awdur sawl llyfr a stori i ddysgwyr gan gynnwys Cysgod yn y Coed, E-ffrindiau a Sgwp.
Enillydd Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2004. Ganed hi yn Walton-on-Thames yn Surrey, ond mae’n byw bellach ym Mhorth Tywyn, Caerfyrddin. Ar ôl symud i Gymru, roedd Lois yn awyddus i ddysgu Cymraeg. Aeth i ddosbarthiadau nos yng Ngholeg Gwent ac erbyn hyn mae hi’n diwtor yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Gwent. Enillodd gystadleuaeth creu deunyddiau darllen i ddysgwyr yn Eisteddfod Meifod a ffrwyth hynny oedd ei chyfrol gyntaf Cysgod yn y Coed.

Gwybodaeth Bellach:
Mae’r nofel hwyliog hon ar ffurf nifer o straeon byr gyda thro ar eu diwedd. Mae pob dydd yn wahanol i Alix Jenkins, ac mae pob stori yn adrodd hanes un o’i hachosion wrth i’r Swyddog Heddlu hon geisio cadw trefn yng nghymuned Aberglas. Mae pob stori wneud ei rhannu yn dameidiau fel eu bod yn haws i’w darllen ac fe fydd yna eirfa ar bob tudalen a lluniau du a gwyn i gyd-fynd â’r dweud.
Yn addas ar gyfer dysgwyr Lefel Mynediad, mae’r iaith wedi ei olygu gan arbenigwr ym maes dysgu Cymraeg i oedolion.