Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Chwedl Calaffate

Gwasg Carreg Gwalch

Chwedl Calaffate

Regular price £6.50
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Lleucu Gwenllian

ISBN: 9781845278182
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Ebrill 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Darluniwyd gan Lleucu Gwenllian
Fformat: Clawr Meddal, 210x210 mm, 50 tudalen
Iaith: Cymraeg

Os ei di i’r Wladfa, rwyt ti’n siŵr o gael cynnig jam ffrwyth y Calaffate, ac rwyt ti’n sicr o weld y blodau aur tlws yn tyfu dros y paith. Yn ôl y sôn, caiff pawb sy’n blasu’r ffrwyth eu swyno i ddod yn ôl i Batagonia – wyt ti eisiau clywed pam?

Bywgraffiad Awdur:
Mae Lleucu Gwenllian yn ddarlunydd 24 oed sy'n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog ac â BA mewn Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd. Felrhan o'r cwrs bu iddi gwblhau amryw o friffiau creadigol gwahanol, a gellir gweld esiamplau o'i gwaith ar ei gwefan – lleucugwenllian.wixsite.com/lleucu-illustration/portfolio ac ar ei chyfrif Instagram – @lleucuillustration

Gwybodaeth Bellach:
Amser maith yn ôl, ymhell cyn bodolaeth y Wladfa, roedd merch ifanc dlos yn byw ymysg llwyth y Tehuelche – pobl wreiddiol talaith Chubut. Un dydd wrth chwilio am baent i'w nain, dyma Calaffate yn cyfarfod bachgen o lwyth y Selk'nam – gelynion y Tehuelche! Wrth i'r ddau sgwrsio dyma nhw'n disgyn mewn cariad, ond dydi llwybr cariad byth yn hawdd.

Dyma'r addasiad Cymraeg cyntaf o'r chwedl drist o gariad, brad a thorcalon, sy'n rhoi cipolwg i ni o fywyd ym Mhatagonia ymhell cyn i'r Cymry groesi'r môr yn 1865.