Awdur: Siân Northey
ISBN: 9781845275266
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Hydref 2015
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Darluniwyd gan Siôn Morris
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg
Llyfr hwyliog i blant yn cynnwys idiomau, cyfystyr a dywediadau difyr. Nid gwerslyfr mo'r gyfrol hon ond llyfr hwyliog sy'n esbonio pob dywediad mewn stori feicto. Dilyniant i Dros Ben Llestri.
Gwybodaeth Bellach:
Druan o'r caneri! Mae colomen yn arwydd o obaith a heddwch. Gall y gog ddod â lwc dda inni yn y gwanwyn. Ond does dim gobaith gan ganeri!
Pam hynny tybed? Wel, mae'n ymadrodd sy'n mynd â ni yn ôl i gyfnod y pyllau glo yng Nghymru, pan oedd caneris yn cael eu cario dan ddaear i brofi a oedd nwy gwenwynig yno ai peidio. Y caneri'n trengi oedd y rhybudd i’r glowyr gilio.
Mae Siân Northey wedi creu pytiau o straeon a sgyrsiau i ddangos defnydd naturiol o'r idiom a cheir yn ogystal gwpled ysgafn gan Myrddin ap Dafydd a chartŵn gan Siôn Morris ar bob tudalen.