CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Amdanom ni


 
Sefydlwyd Awen Teifi yn 1999 gan Siân a Geraint James yn nhref byrlymus Aberteifi fel siop lyfrau Cymraeg gan gynnwys cardiau ac anrhegion traddodiadol, chwaethus Cymreig. Mae'r busnes wedi ehangu ar hyd y blynyddoedd ac eisioes wedi datblygu o’i wraidd fel siop lyfrau traddodiadol Cymraeg i fusnes teuluol llwyddiannus. Heddiw, yn ogystal â'r adran llyfrau ceir adran deganau eang gan gynnwys Lego, teganau fferm megis Britains, Bruder, Siku a Brushwood ac hefyd llu o deganau pren, traddodiadol. Mae llawr isaf Awen Teifi yn gartref i'r teganau fferm yn unig ac yn baradwys llwyr i'n cwsmeriaid sydd yn ymddiddori mewn byd amaeth! Yn sicr, mae'n bosib treulio oriau 'lawr stâr'!
Yn ychwanegol i'r siop, mae Oriel Awen Teifi yn rhan blaenllaw iawn o'r busnes, ac yn gartref i waith nifer o artistiaid lleol gan gynnwys Aneurin Jones (printiau), Meirion Jones, Joanna Jones, Stan Williams, ac yn fwy diweddar Vladislas, Wyn Owens ac Alun Ifans.