Awdur: Geraint Thomas
ISBN: 9780862437374
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Medi 2004
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 298 x 212 mm, 232 tudalen
Iaith: Cymraeg
Casgliad gwerthfawr o dros gant o wasanaethau ar themau amrywiol yn dilyn blwyddyn ysgol, yn cynnwys stori a gweddi, awgrymiadau am ganeuon ac emynau perthnasol, darlleniadau Beiblaidd a syniadau am weithgaredd trawsgwricwlaidd, at ddefnydd athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd ac athrawon Ysgolion Sul.
Tabl Cynnwys:
1. Medi
2. Hydref
3. Tachwedd
4. Rhagfyr
5. Ionawr
6. Chwefror
7. Mawrth
8. Ebrill
9. Mai
10. Mehefin
11. Gorffennaf
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Geraint yng Nghorris, ond symudodd yn ifanc gyda'r teulu i Ystalyfera. Cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol y Wern ac yna yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera. Dilynodd brif gwrs Uchaf Cymraeg a Drama yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Wedi cyfnodau o ddysgu yn ysgolion cynradd Aberdyfi a Phenparcau, fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Myfenydd, Llanrhystud yn 1974. Penodwyd ef yn brifathro Ysgol Tal-y-bont yn 1978 ac yn brifathro Llwyn yr Eos yn 1989, lle y bu tan ei ymddeoliad yn 2003.