Awdur: Onwy Gower
ISBN: 9781784617776
Dyddiad Cyhoeddi: Ionawr 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Ffion Gwyn
Fformat: Clawr Meddal, 250x191 mm, 112 tudalen
Iaith: Cymraeg
Llyfr ffeithiol am 50 o adar sydd i'w gweld yng Nghymru, wedi ei ddylunio'n ddeniadol, gyda tudalen ddwbl i bob aderyn, yn cynnwys ffeithiau, ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu'n arbennig ar gyfer y gyfrol. Cynhwysir ffeithiau megis maint, cynefin a bwyd yr adar, disgrifiad, mis-o-metr, Ffeithiau Ffab ynghyd â geirfa ddefnyddiol.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Onwy yn ferch i'r awdur Jon Gower. Dyma'r unig lyfr ffeithiol i blant sydd wedi ei ysgrifennu gan blentyn. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn gwylio adar ers blynyddoedd.
Gwybodaeth Bellach:
Bydd yn cynnwys pennill am bob aderyn - naill ai wedi eu creu gan Onwy neu o gerddi sy'n bodoli eisoes gan feirdd fel T Llew Jones. Bydd lluniau'r artist Ffion Gwyn yn britho'r gyfrol, yn ogystal â diwyg lliwgar, darllenadwy, wedi'i dylunio gan Olwen Fowler, mewn amrywiol ffontiau a steiliau fel pwyntiau bwled.