CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Byw Ffwl Pelt - Hunangofiant Alun Lenny

Alun Lenny

Byw Ffwl Pelt - Hunangofiant Alun Lenny

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alun Lenny
ISBN: 9781784617714
Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x141 mm, 224 tudalen
Iaith: Cymraeg
Hunangofiant difyr gydag adran luniau sy'n dilyn un o newyddiadurwyr mwyaf profiadol Cymru yn ystod newidiadau enfawr yn ein hanes. Wedi ei ysgrifennu mewn iaith agos-atoch, mae Alun Lenny yn ein bwrw i ganol rhai o straeon mwyaf yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Bron i 90 o ffotograffau yn darlunio bywyd personol a phroffesiynol.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Alun Lenny yn un o newyddiadurwyr mwyaf adnabyddus Cymru a chanddo wledd o straeon ers gweithio ym myd newyddion yn ystod cyfnod o newidiadau mawr mewn cyfnod byr. Trwy ei waith gyda'r BBC, cafodd gyfle unigryw i deithio i ganol y stori yng Nghymru a thu hwnt, a bod yn dyst i ddigwyddiadau mawr a man a rhannu profiadau personol pobl eraill. Mae ganddo gysylltiadau lu yn y wasg a'r cyfryngau ac mae'n gyfarwydd a siarad â chymdeithasau. Mae'n gymeriad poblogaidd yn ardal Caerfyrddin, yn weithiwr Cristnogol ac yn ystod ei gyfnod fel Maer y dref.
Gwybodaeth Bellach:
Fe fydd Alun yn mynd o'r cyhoeddus i'r personol wrth drafod sut y gadawodd profiadau dirdynnol pobol eraill eu marc arno.
O newyddion mawr y dydd i faterion gwleidyddol llosg fe ddown i nabod y dyn ei hun trwy ei ddilyn ar ei deithiau.
Am 33 mlynedd bu’n dyst i ddigwyddiadau mawr a man yn ei gornel o’r byd a’r byd mawr tu fas. Sgwrsio â chyn-Arlywydd America mewn capel yng Nghymru, rhannu jôc â dyn 112 oed, rhannu potel rym gyda milwyr mewn jyngl, gweld sawl llofrudd yn cael eu carcharu mewn llys barn, parchu galar y sawl oedd wedi colli rhywun annwyl a gofid y sawl oedd wedi colli swydd. Mae disgwyl i ohebydd fod yn wrthrychol, ond dynol ydym ac mae profiadau pobl eraill wedi gadael eu marc arno. Un dydd ar y tro oedd ei fywyd fel gohebydd. Deffro’n y bore heb wybod lle y byddai cyn nos. Ai Abergwaun neu Amsterdam? Felly hefyd y llyfr hwn.
Yn ystod ei fywyd, bu newid mawr mewn hanes: symud o’r oes beirianyddol i’r digidol. Meddai Alun, mae’n anodd cofio Cymru heb M4 ac S4C, gyda channoedd o filoedd yn gweithio’n y pyllau glo a degau o filoedd o ffermydd teuluol; bywyd heb ddŵr o’r tap, trydan na theledu, heb sôn am ffôn symudol a chyfrifiadur.