CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Chwarae Allan, Dysgu Mas - Arfer Da yn yr Awyr Agored

Canolfan Peniarth

Chwarae Allan, Dysgu Mas - Arfer Da yn yr Awyr Agored

Pris arferol £12.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Angela Rees, Anne-Marie Gealy

ISBN: 9781908395801 
Dyddiad Cyhoeddi: 13 Mawrth 2014
Cyhoeddwr: Canolfan Peniarth, Caerfyrddin
Fformat: Cymysg, 65 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cynhyrchwyd y llawlyfr a'r DVD fel arweiniad i oedolion sy'n gweithio gyda phlant ifanc ac mae'r cynnwys yn cynnig syniadau ar sut i ddwysau potensial dysgu plant yn yr awyr agored ac wrth iddynt ryngweithio â byd natur. Mae'r cynnwys hefyd yn deillio o ymchwil gyda phlant ieuengaf y Cyfnod Sylfaen mewn amrywiaeth o amgylchiadau.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Cynhyrchwyd y llawlyfr a'r DVD fel arweiniad i oedolion sy'n gweithio gyda phlant ifanc ac mae'r cynnwys yn cynnig syniadau ar sut i ddwysau ptensial dysgu plant yn yr awyr agored ac wrth iddynt ryngweithio â byd natur. Mae'r cynnwys hefyd yn deillio o ymchwil gyda phlant ieuengaf y Cyfnod Sylfaen mewn amrywiaeth o amgylchiadau, er enghraifft, traeth, coedwig a iard darmac.
Cynigir anogaeth i oedolion weld y posibiliadau yn eu hardaloedd awyr agored, i oresgyn problemau, oherwydd nid oes ardal allanol berffaith ar gael gan bawb. Wrth wylio clipiau'r DVD a chynnig atebion i'r cwestiynau a osodir, gellir cynnig hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus.
Ceir cyfeiriadau at arloeswyr y maes, er enghraifft, Froebel, Margaret McMillan a Piaget sydd yn dylanwadu ar waith cyfoes Tovey, Knight, Gill a Louv.

Mae'r awduron wedi cael y fraint o ymweld â nifer o wledydd tramor sef Denmarc, Sweden a Reggio Emilia yn yr Eidal, lle gwelir arfer da yn yr awyr agored.