CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Ffion Enlli
ISBN: 9781800991941
Dyddiad Cyhoeddi: 27 Hydref 2022
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 196x131 mm, 288 tudalen
Iaith: Cymraeg
Stryffaglu trwy ei hugeiniau yn Llundain mae Lydia, yn difaru'r nosweithiau meddw, yn pendroni dros decsts, yn trio'i gorau i beidio cyrraedd yn hwyr i'w gwaith. Mae ganddi berthynas gymhleth â Chymru. Ymhell o adra, mae hi'n cwestiynu ei hunaniaeth a sut mae hi'n gweld ei hun fel Cymraes yn y byd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Ffion Enlli yn Aberdaron ym mhen draw Llŷn. Astudiodd Ffrangeg a Saesneg ym Mhrifysgol Royal Holloway, Surrey. Mae wedi byw a gweithio ym Mharis a Perpignan a bu’n gweithio mewn asiantaethau dylunio a brandio yn Llundain am bron i 6 mlynedd. Bellach mae’n byw yn Uwchmynydd, yn gweithio fel sgwennwr llawrydd ac yn rhedeg caffi Plas Carmel yn Anelog, Llŷn.