CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Y Bwrdd

Iwan Rhys

Y Bwrdd

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Iwan Rhys

ISBN: 9781784617967 
Dyddiad Cyhoeddi: 14 Hydref 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 195x132 mm, 154 tudalen
Iaith: Cymraeg

'Os daeth un peth da o Brexit, y nofel yma ydi hwnnw!' Dyna eiriau Rhys Iorwerth am Y Bwrdd. Dilynir Carwyn o'r Tymbl sy'n gweithio i'r 'Bwrdd' yng Nghaerdydd ac sy'n bartner i Laticia o Valencia ac yn dad i Awel. Portreadir byd undonog ei swyddfa mewn cyferbyniad â'i angerdd at goginio ac alcohol.

Tabl Cynnwys:
Ymdrinnir â pheryglon Brecsit a rhoir llais i sawl math o ragfarn a pholemeg gymdeithasol gyfredol.

Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Iwan Rhys ym Mhorthyrhyd ger Caerfyrddin. Adnabyddir ef fel bardd. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith; yn 2001 ac yn 2008. Bu’n rhan o’r daith farddol Crap ar Farddoni yn 2006 gyda Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury. Mae’n aelod o dîm talwrn Dros yr Aber a thîm Y Deheubarth yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw awdur y gyfrol Eleni Mewn Englynion. Dyma ei nofel gyntaf.