CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Y Düwch

Jon Gower

Y Düwch

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Jon Gower

ISBN: 9781845276812 
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Mehefin 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 288 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Gorffennaf 2018
Nofel drosedd, dywyll wedi ei lleoli ar rust belt Cymru, yr arfordir diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol o Gynffig i Lansamlet. Caiff prifathro ysgol gynradd ei herwgipio a’i boenydio gan 'Y Bwystfil', seicopath mileinig sydd wedi lladd dau berson yn barod. Dyddiau'n ddiweddarach mae perchennog siop cebab yn derbyn parsel o Amazon. Ynddo mae un llygad.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Jon Gower yn ddramodydd ac yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n un o awduron amlycaf Cymru ac enillydd Llyfr y Flwyddyn. Daw o Lanelli yn wreiddiol ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd
bellach, gyda’i wraig a’i ddwy ferch.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma thriller arswydus, gyffrous gan un o awduron gorau Cymru yn dilyn ymdrechion Ditectif Thomas Thomas (neu TomTom) a Ditectif Emma Freeman yn ceisio datrys y dirgelwch erchyll yma wrth i fwy o ddarnau corff gyrraedd nifer o drigolion yr ardal...