CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Yn Fflach y Fellten

Geraint V. Jones

Yn Fflach y Fellten

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Geraint V. Jones

ISBN: 9781784615505
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Mawrth 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x131 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel gyffrous sy'n mynd â'r darllenydd i fyd y goruwchnaturiol. Mae'n adrodd hanes gŵr oedrannus yn ymddeol i'w hen fro ar ôl treulio oes yn gweithio dros y ffin yn Lloegr. Mae'r dychwelyd i'w hen gynefin nid yn unig yn dwyn atgofion cymysg iawn yn ôl iddo ond hefyd yn ail agor hen graith sydd ynghlwm wrth ddirgelion a drychiolaethau'r gorffennol.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Geraint V Jones yn nofelydd poblogaidd sydd wedi ennill clod am ei waith. Enillodd wobr goffa Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith. Mae’n ddyn ei gynefin. Ganed ym Mlaenau Ffestiniog yn 1938. Cyn-bennaeth yr Adran Gymraeg, Ysgol y Moelwyn. Mae’n ffigur poblogaidd yn ei gymuned ac yn aelod o Gôr y Brythoniaid ers 50 mlynedd.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma nofel gyntaf Geraint V Jones i oedolion ers deng mlynedd.