CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Ysbryd Morgan - Adferiad y Meddwl Cymreig

Gwasg Prifysgol Cymru

Ysbryd Morgan - Adferiad y Meddwl Cymreig

Pris arferol £16.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Huw L. Williams

ISBN: 9781786834195 
Dyddiad Cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
Fformat: Clawr Meddal, 217x139 mm, 202 tudalen
Iaith: Cymraeg

Wynebwn heddiw argyfyngau hinsawdd, gwacter ystyr, ac ymchwydd asgell dde ddigyfaddawd. Dyma destun sy'n olrhain hanes deallusol radical Cymru yng nghwmni merch o'r enw Ceridwen, sy'n ein hannog fel darllenwyr i ailafael mewn etifeddiaeth ddeallusol Gymreig yn wyneb heriau'r dydd.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Tabl Cynnwys:

Adnodau
Diolchiadau
Rhagymadrodd
Pennod 1
Ceridwen
Y Dylluan
Pennod 2
Nain a Gransha
Y Fwyalchen
Pennod 3
Hanesion
Y Gwylanod
Pennod 4
Ffarwél
Y Barcud
Y Negesydd
Epilog
Nodiadau
Llyfryddiaeth

Bywgraffiad Awdur:
Mae Huw L. Williams yn ddarlithydd uwch mewn Athroniaeth, ac yn ddarlithydd cysylltiol gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei ddiddordebau pennaf yw athroniaeth gwleidyddol a hanes meddwl gwleidyddol, ac mae’n cyfrannu'n gyson i drafodaethau cyhoeddus gan gynnwys y golofn ‘Socrates ar y Stryd’ i’r cylchgrawn O'r Pedwar Gwynt. Ef yw Deon y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Gwybodaeth Bellach:
• Ceir ynddi cyflwyniad bras a beirniadaeth gyffredinol o athroniaeth wleidyddol modern, sydd yn fan cychwyn er mwyn deal natur ddeallusol yr heriau sydd yn ein hwynebu heddiw.
• Mae’n cyflwyno un fersiwn o hanes Cymru (gan ragdybio bod y fath beth yn bod) – hanes deallusol Cymru, a honno yn un stori cwmpasog o’n hetifeddiaeth ‘celtaidd’ hyd at y dydd heddiw
• Awn ar stori ffantasiol yng nghwmni ferch o’r enw Ceridwen, sydd yn cyflwyno ni i gyfeillion annhebygol sydd yn adrodd ar fawrion y genedl a’n traddodiadau deallusol a gwleidyddol, gan ein hannog ni i adfer y meddwl Cymreig.
• At ei gilydd, ceir yn y testun hwn galwad i ymateb i argyfwng gwleidyddol ac ysbrydol ein hoes, a hynny trwy y traddodiad radical, sosialaidd Cymreig, sydd mor nodweddiadol o’n hanes a’n hunan-ddealltwriaeth hyd y dydd heddiw.