CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cyfres Cynefin: 3. y Fferm

Gwasg Carreg Gwalch

Cyfres Cynefin: 3. y Fferm

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Iolo Williams, Bethan Wyn Jones
ISBN: 9781845275327
Dyddiad Cyhoeddi: 07 Gorffennaf 2015
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 235x172 mm, 64 tudalen
Iaith: Cymraeg
Y drydedd yn y gyfres o lyfrau sy'n archwilio cynefinoedd Cymru. Mae'r gyfrol yn canolbwyntio ar y bywyd gwyllt sy'n ffynnu ochr yn ochr â'r da byw a'r cnydau ar dir fferm Cymru, o'r glastir i'r ucheldir, gan ddisgrifio y cyfoeth o anifeiliaid, adar, trychfilod, ymlusgiaid, planhigion a choed sy'n gwneud tir Cymru mor nodedig.
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Bethan Wyn Jones yn y Talwrn, Sir Fôn, a derbyniodd ei haddysg gynradd yn ysgol y pentref. Un o’i hatgofion cynnar yw cael mynd am dro ar ôl cinio ar bnawn Sul yn llaw ei thad ac yntau’n dangos blodau ac adar iddi, ac yn dysgu eu henwau iddi. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn Sŵoleg. Mae’n cyfrannu sgyrsiau am wahanol agweddau ar fyd natur yn wythnosol i Galwad Cynnar ar Radio Cymru, yn ogystal ag erthyglau i’r Herald Cymraeg a chylchgronau eraill. Cyhoeddodd nifer o lyfrau poblogaidd gan gynnwys Bwrw Blwyddyn, Blodau Gwyllt, Natur y Flwyddyn, cyfres Doctor Dail a Llyfr Natur Iolo ar y cyd ag Iolo Williams.

Mynychodd Iolo Williams Ysgol Gynradd Llanwddyn, Ysgol Uwchradd Llanfyllin ac enillodd radd mewn Ecoleg ym Mholytechnig Gogledd Ddwyrain Llundain. Bu’n gweithio i’r RSPB yng Nghymru am bron i bymtheg mlynedd cyn gadael i gyflwyno rhaglenni teledu a radio Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys Springwatch ac Autumnwatch. Mae’n gyfrannwr cyson i raglen radio’r BBC Galwad Cynnar. Mae’n awdur neu’n gyd-awdur chwech o lyfrau: Birds in Wales, Blwyddyn Iolo, Llyfr Natur Iolo, Llyfr Adar Iolo, Wild about the Wild a Blwyddyn Fan Hyn a Fan Draw, ac yn cyfrannu’n gyson i’r cylchgronau BBC Wildlife a County & Border Living.
Gwybodaeth Bellach:
Nid llyfr am ffermio yw hwn, ond llyfr am y bywyd gwyllt sy’n ffynnu ochr yn ochr â’r da byw a’r cnydau ar dir fferm Cymru – o’r creaduriaid lleiaf sy’n byw mewn cloddiau a waliau cerrig i’r blodau gwyllt sy’n denu gwenyn a glöynnod. Cewch eich tywys drwy diroedd amaethyddol Cymru gan Iolo Williams a Bethan Wyn Jones, sy’n disgrifio’r cyfoeth o anifeiliaid, adar, trychfilod, ymlusgiaid, planhigion a choed sy’n gwneud tiroedd ein gwlad mor arbennig.