CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: John Gwilym Jones, Tudur Dylan Jones
ISBN: 9781911584421
Dyddiad Cyhoeddi: 14 Mai 2021
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Caled, 197x135 mm, 120 tudalen
Iaith: Cymraeg
Casgliad o gerddi gan y prifeirdd John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones gyda'u cerddi wedi eu gosod 'am yn ail' yw'r gyfrol hon. Dyma'r tro cyntaf erioed i'r tad a'r mab gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth ar y cyd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Daw'r Prifardd John Gwilym Jones o Gastell Newydd Emlyn yn wreiddiol. Symudodd i Fangor ar ddiwedd y 60au ond erbyn hyn mae'n byw ym Mheniel, Sir Gaerfyrddin. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 1981 a bu hefyd yn Archdderwydd yr Orsedd rhwng 1993 a 1996. Mab iddo yw’r Prifardd Tudur Dylan Jones a fagwyd ym Mangor ond sydd bellach yn byw yng Nghaerfyrddin. Enillodd Gadair Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 mewn seremoni 'Cadeirio'r Bardd' gofiadwy iawn wrth iddo gael ei gadeirio gan ei dad a oedd yn Archdderwydd ar y pryd. Enillodd y Gadair eto yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau yn 2005.