CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Anghenion y Gynghanedd

Alan Llwyd

Anghenion y Gynghanedd

Pris arferol £9.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alan Llwyd

ISBN: 9781900437981
Dyddiad Cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2007
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 210x146 mm, 355 tudalen
Iaith: Cymraeg

Gwerslyfr effeithiol sy'n rhoi arweiniad at sut i gynganeddu. Mae hwn yn fersiwn llawnach a mwy cyfoes o'r gyfrol wreiddiol boblogaidd a gyhoeddwyd ym 1973.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Gwybodaeth Bellach:
Cyhoeddwyd Anghenion y Gynghanedd ym 1973, a bu'n werslyfr hynod o boblogaidd ac effeithiol. Fe'i pleidleisiwyd fel y llawlyfr dysgu cynganeddion gorau erioed ar y wefan 'Annedd y Cynganeddwyr', a thrwy'r llyfr hwn y dysgodd nifer helaeth o bobl sut i gynganeddu, gan gynnwys o leiaf ddau brifardd. Mae'r fersiwn newydd hwn yn fersiwn llawnach a mwy cyfoes o'r llyfr gwreiddiol. Yn wir, mae galw'r llyfr yn Anghenion y Gynghanedd yn gamarweiniol, gan mai llyfr newydd sbon a hollol wahanol i'r gwreiddiol yw hwn.

Ailwampiwyd ac ailysgrifennwyd y cyfan. Mae'n llawer mwy cynhwysfawr nag Anghenion y Gynghanedd 1973, a defnyddir llinellau o waith y prif feirdd cynganeddol, yn enwedig y Cywyddwyr, i esbonio pob cynghanedd ac i egluro pob rheol, bai a goddefiad. Dysg lafar oedd Cerdd Dafod yng nghyfnod y Cywyddwyr, ac er bod peth o'r ddysg honno wedi goroesi mewn llawysgrifau fel Pum Llyfr Cerddwriaeth Simwnt Fychan (tua 1570), mae awdur y gyfrol hon yn dadlau fod holl gyfrinachau'r traddodiad barddol wedi goroesi yng ngwaith y Cywyddwyr eu hunain. Dadlennu'r ddysg honno a wneir yn y llyfr hwn.

Ceir damcaniaethau a dadleuon newydd sbon yma hefyd, ac fe seiliwyd pob dadl a damcaniaeth ar dystiolaeth ddiymwad, gadarn, ac yn ogystal ag esbonio rheolau'r gynghanedd, mae'r gyfrol hefyd yn trafod rhai o brif dechnegau'r prif feirdd cynganeddol. Gan fod cymaint o ddryswch ac anghytundeb yn bod ynghylch rhai o reolau'r gynghanedd erbyn hyn, mae cyhoeddi'r llyfr hwn yn ddigwyddiad amserol.