CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Bro a Bywyd: Hywel Teifi

Cyhoeddiadau Barddas

Bro a Bywyd: Hywel Teifi

Pris arferol £12.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781906396619
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Awst 2013
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Golygwyd gan Tegwyn Jones
Fformat: Clawr Meddal, 187x238 mm, 116 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol sy'n talu teyrnged i gyfraniad enfawr Hywel Teifi Edwards i'w genedl yn weledol ac yn ysgrifenedig ac a fydd, gobeithio yn cadw'i straeon yn fyw.

Tabl Cynnwys:
Rhagair (Tegwyn Jones)
'Hywel aber-arth'
Pel-droed a champau eraill
'Ysgolhaig y Bobl'
Gwleidydd
Eisteddfodwr
Llangennech a thu hwnt

Bywgraffiad Awdur:
Y Golygydd: Aeth Tegwyn Jones i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth gwta ddwy flynedd ar ôl ei gyd-Gardi, Hywel Teifi, ac yno y gosodwyd sylfeini eu cyfeillgarwch. Wedi dyddiau coleg, aeth y ddau i ddysgu mewn ysgolion yn ne Cymru lle’r arhosodd Hywel weddill ei oes. Daeth Tegwyn yn ôl i’w gynefin gan ymuno â staff Geiriadur Prifysgol Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yno y bu’n gweithio hyd ei ymddeoliad yn 1996. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae agweddau ar hanes Morrisiaid Môn, bywgraffiad dau faledwr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chasgliadau o brydyddiaeth werinol megis baledi, tribannau, ‘penillion bob dydd’ a limrigau. Yn 2008, ar y cyd â Dr Huw Walters, golygodd Cawr i’w Genedl, cyfrol o draethodau i gyfarch Hywel gan nifer o gyfeillion a chyd-ysgolheigion.

Gwybodaeth Bellach:
Wrth sôn mewn darlith yn y Llyfrgell Genedlaethol am ei gyfrol Gŵyl Gwalia, meddai Hywel Teifi: ‘Penderfynais fy mod i’n mynd i ddyfynnu’n aml er mwyn i leisiau’r cyfnod gael eu clywed eto’. At nod tebyg yr anelwyd yn y gyfrol hon. Er bod yma ac acw sylwadau gan eraill, llais Hywel ei hun a glywir amlaf o ddigon ynddi wrth iddo draethu’n llifeiriol am y pynciau hynny – cyffredin ac ysgolheigaidd – a aeth â’i fryd. Er tewi o’r ‘cawr’, trwy gyfrwng y detholiad o ddyfyniadau a geir yma, cawn gyfle i’w ‘glywed eto’.