CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Buarth Beirdd - Ymatebion Beirdd Cyfoes i Lawysgrifau Cynharaf yr Iaith Gymraeg

Cyhoeddiadau Barddas

Buarth Beirdd - Ymatebion Beirdd Cyfoes i Lawysgrifau Cynharaf yr Iaith Gymraeg

Pris arferol £10.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781906396671 
Dyddiad Cyhoeddi: 03 Mawrth 2014
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Golygwyd gan Eurig Salisbury
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol sy'n cyflwyno rhai o lawysgrifau cynharaf yr iaith Gymraeg ac sy'n cywain ymatebion un ar bymtheg o feirdd cyfoes iddynt. Y Mabinogi, Arthur, Taliesin, Dafydd ap Gwilym ... maen nhw i gyd yn enwog iawn yng Nghymru a thu hwnt. Ond ym mhle cafodd yr enwau hyn eu cofnodi mewn llyfr am y tro cyntaf? A phryd? Ac ar gais pwy? A pham?

Tabl Cynnwys:

CERDDI:

‘Arddangosfa’r Pedwar Llyfr’ - Myrddin ap Dafydd
‘Arddangosfa’r Pedwar Llyfr - Dafydd John Pritchard
‘Mererid’ - Hywel Griffiths
‘cerdd ddarogan’ - Christine James
‘Pa Ŵr yw’r Bownser?’ - Eurig Salisbury
‘Gloywgan’ - Gwyn Thomas
‘Pais Dinogad’ - Huw Meirion Edwards
‘Marwnad Pom’ - Gruffudd Owen
‘Taliesin’ - Emyr Lewis
‘Cad Coedwig’ - Aneirin Karadog
‘Mab a Roddwyd’ - Menna Elfyn
‘Ynys’ (detholiad) - Gwyneth Lewis
‘Trydar Duw i Gynddelw Brydydd Mawr’ - Damian Walford Davies
‘Pengwern’ - Tudur Dylan Jones
‘Mwy no Thân mewn Eithinen …’ - Gruffudd Antur

YSGRIFAU:

'Llyfr Du Caerfyrddin' - Eurig Salisbury
'Llyfr Aneirin' - Eurig Salisbury
'Llawysgrif Hendregadredd' - Eurig Salisbury
'Llyfr Taliesin' - Eurig Salisbury
'Llyfr Gwyn Rhydderch' - Eurig Salisbury
'Llyfr Coch Hergest' - Eurig Salisbury
‘Awdl o Lyfr Aneirin’ – Gwyn Thomas
‘Cynddelw Brydydd Mawr’ – Eurig Salisbury
‘Dal i Fusnesa’ (Llyfr Coch Hergest) – Twm Morys

Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Eurig ei eni yng Nghaerdydd yn 1983 a’i fagu yn y ddinas ac yn Llangynog ger Caerfyrddin. Dysgodd ei hun i gynganeddu pan oedd yn dair ar ddeg, gan fynd ati i ennill gwobrau a chystadlaethau mewn nifer o eisteddfodau. Yn 2006, cymerodd ran yn nhaith farddoniaeth Crap ar Farddoni ac enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Llyfr Glas Eurig, yn 2008, ac yn 2011 cyhoeddodd Sgrwtsh!, cyfrol o farddoniaeth i blant. Mae Eurig yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Bu’n rhan o Brosiect Guto’r Glyn (www.gutorglyn.net), a bellach mae’n aelod o dîm prosiect Cwlt y Seintiau yng Nghymru. Ef oedd Bardd Plant Cymru 2011–13 a Chymrawd Rhyngwladol y Gelli 2012–13.

Gwybodaeth Bellach:
Yn y gyfrol hardd hon ceir cyflwyniadau gwych i chwech o lawysgrifau mwyaf eiconig yr iaith Gymraeg – Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Aneirin, Llawysgrif Hendregadredd, Llyfr Taliesin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Ceir hefyd gerddi ac ysgrifau gan 16 o feirdd cyfoes yn ymateb i gynnwys rhai o drysorau mwyaf gwerthfawr y genedl.