CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Llenorion Cymru: 1. Jim Parc Nest

T.James Jones

Cyfres Llenorion Cymru: 1. Jim Parc Nest

Pris arferol £12.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: T.James Jones

ISBN: 9781906396756
Dyddiad Cyhoeddi: 11 Tachwedd 2014
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg

Casgliad o ysgrifau hunangofiannol sy'n bwrw golwg ar sawl carreg filltir ym mywyd a gwaith un o'n llenorion amlycaf wrth iddo gyrraedd y pedwar ugain. Cynhwysir bron i 40 o luniau du a gwyn sydd hefyd yn gofnod gwerthfawr o'r daith.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Tabl Cynnwys:
Gwreiddiau
Gwreiddio
Dylanwad
Eironiau
Diwrnod i'r Brenin
O'r Maen Llog
Ymweliadau
Rhif y Gwlith o Fendithion

Bywgraffiad Awdur:
Ganed T. James Jones yn 1934. Ef yw’r hynaf o ‘fois Parc Nest’. Fel ei frodyr, John Gwilym ac Aled Gwyn, bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr cyn derbyn swydd fel darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yna yn ddiweddarach, fel aelod o adran sgriptiau’r BBC (bu’n olygydd sgriptiau y gyfres Pobl y Cwm). Enillodd Goron y Genedlaethol ddwywaith (Abergwaun, 1986 a Chasnewydd 1988) a’r Gadair yn yr Wyddgrug (2007). Ef oedd olynydd Dic Jones fel Archdderwydd rhwng 2010 a 2013 – a rhagflaenydd yr Archdderwydd presennol.

Ymhlith y cyfrolau o gerddi a gyhoeddodd mae 'Cerddi Ianws Poems', 'Eiliadau o Berthyn', 'Diwrnod i’r Brenin', 'Nawr' ac yn ddiweddarach eleni, 'Cymanfa' (Gwasg Gomer); cyhoeddodd yn ogystal sawl drama a bu’n gyfrifol am gyfieithu 'Under Milk Wood', Dylan Thomas (ymddangosodd pedwar argraffiad o Dan y Wenallt ganddo, y diweddaraf ym mis Mawrth eleni).