CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Mam - Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau

Cyhoeddiadau Barddas

Mam - Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau

Pris arferol £9.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781911584216
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Chwefror 2019
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Golygwyd gan Mari George
Fformat: Clawr Caled, 158x157 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg

♥ Llyfr y Mis: Mawrth 2019
Casgliad o gerddi hen a newydd sy'n dathlu rôl y fam: yn gerddi gan feirdd sy'n famau eu hunain ac yn gerddi llawn atgofion am famau o bob oed. Plethir y cerddi ynghyd â darluniadau hynafol a dyluniad hardd sy'n gwneud y gyfrol yn anrheg perffaith ar gyfer Sul y Mamau neu ar gyfer unrhyw fam newydd.

Gwybodaeth Bellach:
Casgliad o gerddi rhydd a chaeth, rhai'n newydd, rhai'n draddodiadol, rhai'n moli a rhai'n peri hiraeth. Dyma gyfrol hardd sy'n dathlu gwerth unrhyw fam, mam-gu neu nain. Gyda cherddi newydd gan Casia Wiliam, Elinor Gwynn, Rhys Iorwerth, Annes Glynn, Huw Meirion Edwards, Ceri Wyn Jones, Myrddin ap Dafydd a Christine James.