CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Parcio

Cyhoeddiadau Barddas

Parcio

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Tudur Hallam

ISBN: 9781911584247
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Awst 2019
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 210x138 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cerddi wedi eu hysbrydoli gan brofiad y bardd o deithio i wlad Trump yn 2017 yw llawer o gerddi'r gyfrol hon wrth i'r bardd fyfyrio ar densiynau hiliol y wlad a'r tebygrwydd rhwng lleiafrifoedd yno ac yma yng Nghymru. Mae'n canu hefyd o ganol ei deulu a'i gyfeillion, gan deimlo'r gorfoledd a'r angst sy'n rhan o brofiadau cyffredin bywyd.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Tudur Hallam yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, gan arbenigo mewn drama, ysgrifennu creadigol, barddoniaeth a dwyieithrwydd. Fe'i penodwyd i Gadair y Gymraeg yn 2011. Yn 2010 enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a'r Cymoedd. Daw'n wreiddiol o Rydaman ac mae'n byw yn Foelgastell, sir Gaerfyrddin.

Gwybodaeth Bellach:
Yn 19 oed, enillodd Tudur Hallam y Fedal Lenyddiaeth pan ddisgrifiwyd ef fel 'gwir fardd' gan y beirniad Dic Jones. Ers hynny, cyhoeddodd gerddi'n ysbeidiol, ac enillodd ei awdl deyrnged i Hywel Teifi Edwards iddo'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010, cerdd sydd, fel y dywedodd Idris Reynolds, 'yn her amserol ... i adennill y tiroedd a gollwyd'.