CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Rhwng Pladur a Blaguryn

Tony Bianchi

Rhwng Pladur a Blaguryn

Pris arferol £7.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Tony Bianchi

ISBN: 9781911584148
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Mehefin 2018
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Golygwyd gan T. James Jones
Fformat: Clawr Meddal, 215x142 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae'r gyfrol hon, sy'n llawn o ddeuoliaethau'r bydysawd, yn gyfle i werthfawrogi cyfraniad y diweddar Tony Bianchi fel bardd blaengar, a hynny mewn cerddi caeth a rhydd.

Bywgraffiad Awdur:
Roedd y diweddar Tony Bianchi yn nofelydd o fri, yn fardd, yn feirniad llenyddol, yn storiwr ac yn gerddor. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2007 a'r Fedal Ryddiaith yn 2015. Meistrolodd y gynghanedd ac enillodd sawl gwobr am farddoni. Yn wreiddiol o North Shields, aeth yn fyfyriwr i Goleg Llanbedr Pont Steffan yn 1969 gan fynd ati i ddysgu'r Gymraeg. Yn y man fe ymgartrefodd yng Nghaerdydd, a bu'n gweithio am sawl blwyddyn yn Adran Lenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru cyn mentro fel awdur ar ei liwt ei hun.

Gwybodaeth Bellach:
Meddai T. James Jones yn ei ragair i'r gyfrol: 'Yn gyson ag amlochredd a sylwgarwch ei greadigaethau, amlygir yn y casgliad hwn, ochr yn ochr a dwyster emosiynau difrifol a thywyll, yr hiwmor chwareus a fu'n ddifyrrwch i'w deulu ac i gynifer o'i gyfeillion a'i ddarllenwyr.'