CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Rhwng y Llinellau

Christine James

Rhwng y Llinellau

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Christine James

ISBN: 9781906396633
Dyddiad Cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2013
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae nifer fawr o gerddi yn y gyfrol hon - cerddi rhydd - yn ymateb i weithiau celf. Lluniau a welir yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru sydd wrth wraidd y dilyniant 'Llinellau Lliw' a enillodd iddi Goron y Genedlaethol yn 2005, er enghraifft, a cheir hefyd corff o gerddi sy'n ymateb i weithiau a gomisiynwyd ar gyfer Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol 2008.

Tabl Cynnwys:
cynnwys

'llinellau lliw'
arddangosfa
y Ffrances a’r Gymraes
cysgod y gadeirlan
ar oleddf
hedfan
blodau Mair
gollwng
noethlun
lliwddall
ymgolli mewn cusan
ar risiau’r amgueddfa


'egni'
alffa
y coma caeth
lluwch geirie
dalen newydd
wonabî
deffro’n fardd
ar hyd yr un llinellau
clera
omega


'cerddi claf'
dwy gawod yn yr hydref
10.10.2002
25.10.2002
brad fy nghyllyll hirion
dwylo
cyffyrddiad llais, goslef llaw
gollwng gwaed
meirch nos
ynysig
cyfri’r oriau


'cynnau tân'
wyna, Tynewydd
y wers gwnïo
sêr, Merthyr Vale
Bethania: Aber-fan
gŵyl y gweryddon: 21 Hydref
disgwyl
tân, Mynydd Merthyr
ynni


'deuair distaw'
ar ddechrau’r daith
olion
ger bedd Iarll Dwyfor
yn eglwys Locronan
hud yn Nyfed (aros mae)
ornithoffobia: colomennod
ornithoffobia: peunod
ornithoffobia: eryr
coll cyntefin
cerdd darogan
cân fud

'cymhlethdod clwm'
i groesawu Trystan Marc i’n teulu
chwiorydd
cinio i dair yn ASK
triptych
i. mam yr artist
ii. merch noeth
iii. menyw mewn parc
hafal
y wers cymesuredd
rebel
y nawfed don (cyfarch Gwynfor ab Ifor)
cân Gwener (cyfarch Jim Parc Nest)
perl (cyfarch Mererid Hopwood)
anfon bwji melyn (cyfarch Tudur Hallam)
pow-wow (cyfarch Manon Rhys)


'celf a cherdd'
lolfa las
mama mia!
arddodiad dwylo
cyffordd
cynefin
cynllun strategol
dwylo: etymoleg cysur
symudiad ymosodol
gwyrdd
wara cwato

Bywgraffiad Awdur:
Merch o gartref di-Gymraeg yn Nghwm Rhondda yw Christine James. Enillodd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a dyfarnwyd doethuriaeth iddi am ei gwaith ymchwil ar Gyfraith Hywel. Mae hi bellach yn Athro Cysylltiol yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n gyd-olygydd y cylchgrawn Taliesin (2000–2009), ac yn 2001 cyhoeddwyd ei golygiad safonol o holl farddoniaeth Gwenallt. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005, a hi yw’r ferch gyntaf erioed i’w gorseddu’n Archdderwydd Cymru. Dyma ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth.
Gwybodaeth Bellach:
‘Yn rhagair y llyfr hwn, dywed Christine James mai tua deng mlynedd yn ôl y darganfu ei llais fel bardd. Neu, ys dywed mewn cerdd ynddo, dyna pryd y dihunodd ‘yn gynnar’ un bore ‘a’r awen yn prancio’ trwy’i phen. Ymhen dim, yr oedd yn feistres mor fawr ar yr awen nwyfus honno fel y daeth yn agos at ennill coron Eisteddfod Genedlaethol 2004. Y flwyddyn ganlynol fe’i henillodd, gyda dilyniant o gerddi tra chelfydd am weithiau celf, dilyniant sylwgar, ffres, ysmala, sy’n hyfrydwch pur i’w ddarllen a’i ailddarllen.

Y mae rhwng y llinellau yn cynnwys dilyniannau eraill a cherddi unigol eraill sydd yr un mor sylwgar a ffraeth – cerddi hunangofiannol am blentyndod yng Nghwm Rhondda ac am salwch ym Massachusetts, cerddi taith (i’r cyfandir ac i’r oesoedd canol), a cherddi achlysurol i gyfeillion a chydnabod. Eu rhyfeddod yw eu bod mor ir. Er yn perthyn i bethau eraill – i’r Beibl, i’r traddodiad barddol ac i weithiau’r meistri – y mae’r cerddi mor wanwynol, fel pe na bai neb wedi dylanwadu arnynt. Pam? Am fod gan Christine ddawn gywrain i lunio troadau ymadrodd disglair mor ddiffwdan, ac i fydru mor rhythmig.

Dyma gyfrol o farddoniaeth synhwyrus, ffraeth, gan fardd sy’n wir deilwng o’r archdderwyddiaeth.’
Derec Llwyd Morgan