CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Stori Hedd Wyn/The Story of Hedd Wyn

Alan Llwyd

Stori Hedd Wyn/The Story of Hedd Wyn

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alan Llwyd

ISBN: 9781906396855
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Mai 2015
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 211x156 mm, 176 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Dyma stori Hedd Wyn, Bardd Cadair Ddu 1917, stori drasig sydd wedi cydio yn ein dychymyg fel cenedl ac sydd bellach yn symbol o bob talent ifanc a gollwyd. Argraffiad newydd (ISBN yr argraffiad gwreiddiol: 9781906396206).

Tabl Cynnwys:
Bardd ar ei Dwf
Blynyddoedd y Rhyfel
Litherland a Ffrainc
Brwydr Cefn Pilkem
Coffau a Chofio Hedd Wyn

Bywgraffiad Awdur:
Mae Alan Llwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe ac yn awdur toreithiog. Fei'i ystyrir yn brif awdurdod ar Hedd Wyn.

Gwybodaeth Bellach:
Profodd stori arwrol Hedd Wyn, Bardd Cadair Ddu Penbedw, 1917 yn un o fythau mwyaf pwerus Cymru yr ugeinfed ganrif, ac wrth i ganmlwyddiant ei farwolaeth ddynesu, gellir dweud bod gafael y stori honno arnom mor dynn ag erioed.

Dyma argraffiad newydd o’r gyfrol ddwyieithog boblogaidd a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2009. Ceir ynddo Ragarweiniad newydd gan yr awdur ynghyd ag ychwanegiad hollbwysig at y testun ei hun, sef y llythyr a anfonodd Hedd Wyn o Ffrainc at yr Eisteddfod Genedlaethol gyda’i ymgais am y Gadair yn 1917 – llythyr a ymddangosodd yn 'Y Faner', Hydref 6, 1917.

Mae’r gyfrol hon yn gyfraniad pwysig at ddiogelu stori Hedd Wyn ar gyfer y dyfodol ac fe fydd, gobeithio, yn sicrhau y bydd llais Hedd Wyn fel bardd yn ‘llais a glyw’r holl oesoedd’.