CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Storm ar Wyneb yr Haul

Llŷr Gwyn Lewis

Storm ar Wyneb yr Haul

Pris arferol £5.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Llŷr Gwyn Lewis

ISBN: 9781906396695
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Mai 2014
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 170x120 mm, 52 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol gyntaf o gerddi Llŷr Gwyn Lewis, darlithydd, talyrnwr a stompiwr, a chyn-enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd ddwy flynedd yn olynol (2010 a 2011).

Tabl Cynnwys:
Ymbelydredd
Y daith
Nostos
Mawrth 29
Traeth yn Trouville
Rhagolygon y llongau
Wake
Gwreiddiau
Oriau mân
Tra an Doilin
Quis custodiet
Gweunydd
Blodyn y Graig
Cyfeilydd
Awr Ddaear
Y Llyfrgell
Amser
Brithdir St
Eos un noson
Mynd am dro
Côd Morse Caeathro
Bwlch yr Oerddrws
Dyn y Traeth
Afon
Gwair
Croen
Cymudo
Philomela
Broadcasting House
Y wawr yn Down St.
Point du Raz, Penn ar Bed

Bywgraffiad Awdur:
O Gaernarfon y daw Llŷr yn wreiddiol ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi, ym Mhrifysgol Abertawe a chwblhaodd ddoethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones a W. B. Yeats. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddwy flynedd yn olynol, (Llannerchaeron, 2010 ac Abertawe a'r Fro, 2011) ac eisoes ymddangosodd sawl cerdd ganddo mewn gylchgronau megis Tu Chwith, Taliesin a Barddas.
Mae Llŷr yn adnabyddus fel perfformiwr (bu ar daith gyda'r sioe 'Cnoi Draenogod' yn 2013); y mae'n dalyrnwr ac yn stompiwr (ef oedd enillydd pastwn yr Ŵyl Farddoniaeth 2013). Y mae hefyd yn ddarlledwr ac yn un o Feirdd Preswyl Radio Cymru.

Gwybodaeth Bellach:
Mae'r casgliad taclus hwn o gerddi fel llyfr taith sy'n gofnod o gyfnod penodol. Daw'r bardd ifanc at sawl croesffordd, a thrwy'r cerddi serch a'r cerddi sy'n dehongli hyd a lled y byd o'i gwmpas cawn flas ar farddoniaeth sylwebydd craff.
'Storm ar Wyneb yr Haul' yw'r gyntaf yn y gyfres o gyfrolau fydd yn rhoi llwyfan i leisiau newydd, disglair. Cyrhaeddodd y gyfrol Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2015 yn y categori Barddoniaeth.