CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Treiglo

Gwyneth Lewis

Treiglo

Pris arferol £9.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gwyneth Lewis

ISBN: 9781906396947
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Hydref 2017
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Caled, 189x137 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma gyfrol hirddisgwyliedig o gerddi newydd gan Gwyneth Lewis - cyfrol sy'n myfyrio ar y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch. Yma, mae Gwyneth yn defnyddio egwyddor y treigladau – meddal, llaes, trwynol a chaled – i fyfyrio ar golli ei thad a'i Gymraeg Beiblaidd, coeth.

Tabl Cynnwys:
Cynnwys
Rhagymadrodd:
Transistor Treiglo
Rhwbio Llythrennau
‘Paid!’

Treigladau Amser:
Damwain
Merch, Malwoden
Camera Bocs Brownie
‘Dr Who Seat’
Mytholeg
Am ’Nôl
Cario
Gyrru
Cerddoriaeth y Meistri
Min

Y Treiglad Haearn:
Haf Olaf
Etifeddiaeth
Treiglo
Dirgelwch
Bob Cam o’r Ffordd
Addewid
Fuoch chi 'Rioed yn Morio?
Adnod Newydd
Anadlu
Cysgodion Hades
Am Dro
Yr Hwyr
Tywydd Mawr
Trai
Aderyn Du Pigfelen

Treigl Wedi Went:
Paratoadau
Wedyn
Celfyddyd
Sillafu
Gwilym, Gi Da
Cywiro
Taenu’r Llwch
Llyfr Geirfa
Theatr
Tablau Pellter a Chyflymdra
‘Welsh Not’
Treftadaeth

Bywgraffiad Awdur:
Yn 2005, cyhoeddwyd y gyfrol Tair Mewn Un gan Gyhoeddiadau Barddas i ddathlu penodi Gwyneth Lewis yn Fardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, sef detholiad o’i thair cyfrol gyntaf o gerddi (Sonedau Resda a Cherddi Eraill, 1990, Cyfrif Un ac Un yn Dri, 1996, a Y Llofrudd Iaith, 1999). Treiglo fydd ei chyfrol gyntaf o gerddi Cymraeg gwreiddiol ers dros ddegawd a mwy, felly. Dyfarnwyd ysgoloriaeth i Gwyneth gan Lenyddiaeth Cymru yn 2011-2012 a’i galluogodd i weithio ar gerddi'r gyfrol hon o gerddi newydd, ac enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2012 yn ogystal.

Gwybodaeth Bellach:
Mae'r gyfrol 'Treiglo' yn mynd a ni ar daith bywyd Gwilym Lewis o'r crud i'r bedd, yn myfyrio ar yr elfen anorfod o drawsffurfio cyson sy'n digwydd yn ystod taith oes. Treiglad amser sy'n ganolog i'r gyfrol hon sy'n ymdrin a galar mewn ffordd ddychmygus, amrwd a chwareus. Er bod iaith, pobl a pherthynas yn trawsffurfio eu hunain, y treiglad mwyaf yw marwolaeth, ac mae’r gyfrol yn dangos y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch sy’n rhan o’r trawsnewid olaf wrth iddi hi ei wylio’n marw.