CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Wilia - Cerddi 2003-2013

Meic Stephens

Wilia - Cerddi 2003-2013

Pris arferol £7.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Meic Stephens

ISBN: 9781906396701
Dyddiad Cyhoeddi: 05 Mehefin 2014
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 216x140 mm, 124 tudalen
Iaith: Cymraeg

Casgliad o gerddi a gyfansoddwyd rhwng 2003 a 2013 gan Meic Stephens a geir yma - 'Ffrwyth deng mlynedd o bryfocio'r Awen'.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Tabl Cynnwys:
Gwreiddiau
Blodau

'Cerddi R’yfelwr Bychan'
Yr ’æf ’wnnw
Mynta Dad
R’og ofon
Miss Morgans
R’icwm sgipo
Gresyn
Bwci-bo
’Wteri
Sturm und Drang
Bwtsh Mordecai
’Omer
R’wpath o’i le
Astars
Jiwls
Apocryffa
6 Mehefin 1944–2004

'Cerddi ’Whant y Cnawd'
Gair i gall
Linda
Betrys
Sue
Brigitte
Penny
Ann
Mair
Jeanne
Sidonie
Marc’harid
Fiona
X
O, gyda llaw
Mrs Gee
Mari
Jonna
Cawod
Miwsig
Y Gŵr Gwyrdd
Lladin
Amser Ceirios

'Yn y gwaed'
Cymynrodd
Mawn
Glaw
Cerddinen
Ffosydd
Bastard
Atal dweud
Gwirebau
Tom Mosco
Jeanie Rees
Cân yr Henwr
Y gair olaf
Mam
Gwyddel
Brawd
Limwns
Henwr

'Ynys'
Hi,Daf!
Annwyl Jên
Colsyn
’Whedleua
Harbwr
Traserch
Bitsh
T’wyllwch
Rhwyd
Gwa’d
Gwibdaith
’Defyn
Pen y daith
Gweriniaethwr
Y Comiwnydd
Tyst
Merthyr

Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Meic Stephens yn Nhrefforest, ger Pontypridd, yn 1938. Cafodd ei addysg uwch yn Aberystwyth, Bangor a Rennes. Yn ogystal â gradd MA (er anrhydedd) dyfarnwyd DLitt iddo gan Brifysgol Cymru. Mae wedi bod yn athro Ffrangeg yng Nglyn Ebwy ac yn newyddiadurwr gyda’r 'Western Mail'; sefydlodd y cylchgrawn 'Poetry Wales' yn 1965 a bu hefyd yn olygydd arno am saith mlynedd. O 1967 hyd 1990 ef oedd Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Ymunodd wedyn â staff Prifysgol Morgannwg, lle daliodd gadair bersonol. Ymhlith y llu o lyfrau y mae wedi eu golygu ceir 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' a chyhoeddwyd ei hunangofiant, sef 'Cofnodion', yn 2012 (Y Lolfa); mae hefyd yn gyd-olygydd y gyfres Writers of Wales. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Ruth.

Gwybodaeth Bellach:
Dyma'r gyfrol gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan Meic Stephens. Dechreuodd Meic Stephens farddoni yn y Gymraeg yn 2003 a daeth yn agos at gipio'r Goron ar sawl achlysur. Mae'r rhan fwyaf o'i gerddi yn defnyddio'r Wenhwyseg, sef tafodiaith y de-ddwyrain. 'Saif ei gerddi,' meddai Dafydd Glyn Jones, 'fel yr ymgais fwyaf estynedig erioed, a’r fwyaf llwyddiannus, i roi lle i'r dafodiaith hon mewn llenyddiaeth.' Ceir Geirfa i helpu’r darllenydd sydd ddim yn gyfarwydd â hi. Bardd y cymoedd diwydiannol sydd yma.
Cyrhaeddodd y gyfrol Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2015 yn y categori Barddoniaeth