CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
ISBN: 9781906396794
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Tachwedd 2014
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Golygwyd gan Haf Llewelyn
Fformat: Clawr Caled, 158x155 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg
Llyfr anrheg gyda dyluniad lliw llawn. Dyma gasgliad o 45 o gerddi am blant a phlentyndod - y mwyafrif gan feirdd cyfoes a chydag ambell glasur adnabyddus yn ogystal.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Cyfrol newydd yn cyfleu camau plentyndod
Gyda’i glawr caled, dyluniad hardd, a’i gynnwys teimladwy, mae’r llyfr diweddaraf gan wasg Barddas yn cael ei ddisgrifio fel ‘y llyfr anrheg perffaith’.
Casgliad arbennig o gerddi am blant a phlentyndod ydi Wyneb y Bore Bach sydd wedi ei olygu gan lenor a mam i bedwar ei hun, Haf Llewelyn o Lanuwchllyn.