CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Bragdy'r Beirdd

Cyhoeddiadau Barddas

Bragdy'r Beirdd

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781911584124
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Mehefin 2018
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Golygwyd gan Osian Rhys Jones, Llŷr Gwyn Lewis
Fformat: Clawr Meddal, 180x132 mm, 104 tudalen
Iaith: Cymraeg

Casgliad o gynnyrch gwych nosweithiau Bragdy'r Beirdd a sefydlwyd yn 2011 er mwyn trefnu nosweithiau barddoniaeth byw yng Nghaerdydd. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys cerddi gan feirdd y Bragdy, cyfraniadau bywiog gan berfformwyr gwadd ac ambell i stori am rai o nosweithiau'r Bragdy yn y Steddfod.

Tabl Cynnwys:
Rhagair
Mae’r Steddfod yn Kerdiff!
Beth sydd mewn enw?
Bragdy’r Beirdd
Cywydd y gwin
Meddwi yn y Bragdy
Diawl o ffeit yn Bala
Un cyn ei throi hi, Llanddewi Nant Hoddni
Saer oedd yr Iesu
Berwyn o’r Bermo a’r bywyd bodlon
Pa gur yv y porthaur?
Noson ‘Iolo!’
Iolo
Cywydd chwit-chwat y tatŵ
Selffi o flaen y graffiti
Mis Medi
Mae gen i siop bapure
Addurno
Capel Rhyd-bach
Cynulleidfa ifanc-brydferth y Bragdy
Diolch
Y botel win
Yn y sêr
Cawod eira
Merch y tes
'Ychydig o hwyl ...'
Roedd fi arfer bod yn siaradwr Cymraeg
Hwiangerddi sinicaidd i blant bach annifyr
Ymddiheuriad i fy chwaer fawr
Cyn i’r babi gyrraedd
Wrth enwi ein mab
Sophie la Girafe
Hwiangerdd
Shwmae?
Taro’r Post
Dwy bleidlais a dau englyn
Hunanwasanaeth
Ffan mwya Bryn Fôn

Bywgraffiad Awdur:
Mae Osian Rhys Jones yn fardd ac yn flogiwr ac yn un o'r criw a sefydlodd Bragdy'r Beirdd. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Mae'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, ond yn wreiddiol o Ben Llŷn. Mae Llŷr Gwyn Lewis hefyd yn byw ac yn gweithio yn y brifddinas. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Storm ar Wyneb yr Haul (Cyhoeddiadau Barddas) yn 2014, ynghyd â chyfrol o ryddiaith, Rhyw Flodau Rhyfel (Y Lolfa). Mae'r ddau olygydd yn dalyrnwyr ac yn ymrysonwyr brwd ac yn aelodau o bwyllgor gwaith Barddas.

Gwybodaeth Bellach:
Y beirdd sydd wedi bod 'yn diwallu syched Cymru ers Oes Pys' yw:
Catrin Dafydd, Rhys Iorwerth, Osian Rhys Jones, Gruffudd Owen, Casia Wiliam, Llŷr Gwyn Lewis, Gwennan Evans, Anni Llŷn, Gruffudd Antur ac Aron Pritchard.
Ymhlith cyfranwyr eraill y gyfrol mae:
Geraint Jarman, Aneirin Karadog a Gwyneth Glyn