CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cawod Lwch

Rhys Iorwerth

Cawod Lwch

Pris arferol £9.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Rhys Iorwerth

ISBN: 9781845278045
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Darluniwyd gan Geraint Thomas
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 122 tudalen
Iaith: Cymraeg

Casgliad newydd o farddoniaeth gan y bardd Rhys Iorwerth - cerddi'r tridegau, cerddi newid byd - sydd wedi dychwelyd i'w fro enedigol yng Nghaernarfon, wedi pymtheg mlynedd yng Nghaerdydd. 'Plethiad o'r heulog a'r drycinog, y dwys a'r ysgafn, y mawr a'r mân' sydd yma, gyda ffotograffau Geraint Thomas yn lliwio'r cyfan.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:

Geraint Thomas
Ffotograffydd proffesiynol yn gweithio o'i oriel yn Stryd y Plas, Caernarfon ydi Geraint. Yno, mae'n arddangos amrywiaeth eang o'i dirluniau o Eryri a'r glannau.
Ond mae'i gefndir ym maes ffilm a theledu yn ei arwain at hoffter o ddweud stori yn ei waith hefyd. Bydd yn canolbwyntio ar grisialu'r eiliad a'i rhoi ar gof a chadw. Oherwydd hynny, mae'i luniau’n cynnig eu llwybrau eu hunain ochr yn ochr â cherddi Rhys.

Gwybodaeth Bellach:
Saith mlynedd yn ôl, cyhoeddodd Rhys Iorwerth ei gyfrol gyntaf – Un Stribedyn Bach. Canu gŵr yn ei ugeiniau oedd y casgliad hwnnw. Bellach, wedi pymtheg mlynedd yn y brifddinas, mae wedi gadael Caerdydd ac wedi symud yn ôl i Gaernarfon, lle mae'n awdur ac yn gyfieithydd llawrydd. Mae hefyd wedi priodi a chael dau o blant. Dyma ddeunydd nifer o gerddi'r casgliad hwn – cerddi'r tridegau, cerddi newid byd.
Mae'n gweld bod pethau wedi newid ar Gymru yn yr un cyfnod – mae'r cymunedau Cymraeg dan fwy o bwysau ac mae gwleidyddion Llundeinig a'r argyfwng hinsawdd yn rhoi min i’w linellau. Cafwyd cyfnod coffáu'r Rhyfel Mawr; gwelwyd twf enfawr mewn technoleg rithwir; digwyddodd Brexit a daeth pandemig. Dathlwyd heulwen yr Ewros yn 2016.

Plethiad o'r personol a'r cymdeithasol sydd yn y cerddi hyn. Plethiad o'r heulog a'r drycinog, y dwys a'r ysgafn, y mawr a'r mân. Ym mhob cerdd ac ym mhob cywair, mae'r ddawn wedi'i hogi'n fain wrth i eiriau droi'n lluniau cofiadwy. Dyma bencerdd ar sawl mesur ac mae'r amrywiaeth sydd ganddo i'w gynnig yn dal hwyl, her a hagrwch ein dyddiau.