CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cerddi Alan Llwyd - Yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015

Alan Llwyd

Cerddi Alan Llwyd - Yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015

Pris arferol £19.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alan Llwyd

ISBN: 9781906396879
Dyddiad Cyhoeddi: 02 Rhagfyr 2015
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Fformat: Clawr Caled, 216x144 mm, 528 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae ail gasgliad cyflawn y Prifardd Alan Llwyd yn dwyn ynghyd gerddi o'r pedair cyfrol a gyhoeddwyd ganddo ers 1990 yn ogystal â chasgliad newydd sbon o gerddi.

Bywgraffiad Awdur:
Mae'r Prifardd Alan Llwyd yn awdur toreithiog ac yn dal cadair bersonol yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Bu'n olygydd y cylchgrawn Barddas yn ogystal â Golygydd Cyhoeddiadau Barddas o 1976-2011. Yn wreiddiol o Ben Llŷn, y mae wedi ymgartrefu yn Nhreforys, Abertawe ers blynyddoedd lawer. Cyhoeddwyd Cerddi Alan Llwyd: Y Casgliad Cyflawn Cyntaf 1968-1990 ganddo yn 1990.

Gwybodaeth Bellach:
Yn ei gyfwyniad i'r gyfrol, dywed Yr Athro Tudur Hallam, wrth gyfeirio at y cerddi newydd yn y casgliad hwn: 'Yn nifer o’r cerddi hynny, megis 'Y Fordaith' ac 'Ymweld â Bwthyn Hardy', clywn lais bardd sy'n boenus ymwybodol o rym amser a'i feidroldeb ef ei hun 'wrth i oed yr addewid / nesáu'. Fel y prawf y gerdd 'Eglwys y Carcharorion, Henllan', nid llais llwyr ddigalon ydyw'r un diweddaraf hwn, ond ar lawer cyfri llais anghysurus, hunllefus ydyw hefyd – llais y bardd a adawyd ar ôl, llais Aneirin, a llais y bardd digenedl, llais Gruffudd ab yr Ynad Coch. Yn sicr, mae’n ganu cwbl ysgytwol:
Pwy fydd ein lladmerydd, mwy,
a'r iaith ei hun ar drothwy
dilead? A oleuwn
eto i'n hiaith y tân hwn?
Marwydos, Gymru, ydwyt;
lludw oer fel Gerallt wyt.
Yn y cywydd marwnad i Gerallt Lloyd Owen, fel yn y farwnad i Gwilym Herber ac i James, cyfaill ei fab, mae yma ganu gwirioneddol rymus sy'n llwyddo i gyfuno'r personol a'r dynol-oesol ynghyd. Wrth i feidroldeb eraill wasgu ar gorff, meddwl ac enaid y bardd, dyma ef ei hun, nid yn annhebyg i Guto'r Glyn yn ei henaint, yn canu rhai o'i gerddi mwyaf ysgytwol erioed. A dyma brofi o'r newydd y wefr honno sy'n nodwedd ar farddoniaeth fawr, megis yn y villanelle hyfryd, drist 'Lleihau y mae'r glaslanciau fesul un'.