CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cerddi'r Sêr

Cyhoeddiadau Barddas

Cerddi'r Sêr

Pris arferol £9.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781911584117
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Golygwyd gan Rhys Meirion
Fformat: Clawr Caled, 177x175 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Tabl Cynnwys:
Rhagair - Rhys Meirion
Rhys Meirion, ‘Eifionydd’ E. Griffiths Hughes
Bethan Gwanas, ‘Hen Benillion’
Tudur Owen, ‘Anfon y Nico’ – Cynan
Yws Gwynedd, ‘Ewro 2016’ – Llion Jones
Sharon Morgan, ‘Wnaiff y gwragedd aros ar ôl?’ – Menna Elfyn
Hywel Gwynfryn, ‘Y Gwanwyn’ – Stephen Edwards
Gareth Roberts, ‘Garej Lôn Glan Môr’ – Steve Eaves
Dylan Cernyw, ‘Mi Gerddaf gyda Thi’ – Anhysbys
Angharad Mair, ‘Cywydd Croeso Eisteddfod Genedlaethol 2005’ – Gerallt Lloyd Owen
Alun Elidyr, ‘Far Rockaway’ – Iwan Llwyd
Owen Powell, ‘Yr Eiliad’ – Waldo
Elin Manahan Thomas, ‘Canu Heledd’
Gareth Glyn,‘Cân Herod’ -T. Glynne Davies
Nic Parry, ‘Angel Gwarcheidiol’ – Mererid Hopwood
Gerallt Pennant, ‘Llyn y Gadair – T. H. Parry-Williams
Osian Williams, ‘Dau Gariad Ail-law’ – Steve Eaves
Jon Gower, ‘Dangosaf iti Lendid’ – Dafydd Rowlands
Gwion Hallam
Elin Jones, ‘Y Tŷ Hwn’ – Ifor ap Glyn
Iolo Williams, ‘Y Cudyll Coch’ – I. D. Hooson
Alwyn Humphreys, ‘Llanddyfnan’ – Percy Hughes
Dylan Meirion Roberts, ‘Cyfarch y Llinos’ – Eifion Wyn
Robin McBryde, ‘Etifeddiaeth’ – Gerallt Lloyd Owen
Dilwyn Morgan, ‘Capel Nanhoron’ – Cynan
Sian Lloyd, ‘Dau Hanner’ – T. H. Parry-Williams
Nigel Owens, ‘Clychau Cantre’r Gwaelod’ – J. J. Williams
Elin Fflur, ‘Colli Iaith’ – Harri Webb
Sian James,‘Y Llyn’ – Angharad Jones
Robat Arwyn,‘Y Ddôl a Aeth o’r Golwg’ – R. Williams Parry
Gwyn Elfyn, ‘Seimon, Mab Jona’ – I. D. Hooson
Gareth Potter, ‘Cofio’ – Waldo
Annette Bryn Parry, ‘Mab y Bwthyn’ – Cynan
Bryn Fôn, ‘Cynhaeaf’ (detholiad) – Dic Jones
Osian Rhys Jones, ‘Rhyddid’ (detholiad) – Emyr Lewis
Mari Grug, ‘Yr Alltud’ – Eifion Wyn
Gwyneth Glyn, ‘Englynion i Dduw’ – Lewys Glyn Cothi
Shan Cothi – ‘Cwm Alltcafan’ – T. Llew Jones
Rhys Mwyn,‘Y Llynnau’ (detholiad o ‘Mynyddoedd Eryri’) – Gwilym Cowlyd

Bywgraffiad Awdur:
Mae Rhys Meirion yn mwynhau gyrfa ddisglair fel tenor, gan deithio i bedwar ban byd. Ymgartrefodd yn Rhuthun, Sir Ddinbych lle mae'n byw gyda'i deulu. Y mae hefyd yn gyflwynydd adnabyddus ac wedi gwneud llawer o waith yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, ac i 'Gronfa Elen'. Cyhoeddodd hunangofiant gyda gwasg Y Lolfa yn 2014.

Gwybodaeth Bellach:
Cyfrol ddeniadol wedi ei hargraffu mewn un lliw ac yn cynnwys 20 o bortreadau du a gwyn o Gymry adnabyddus gan y ffotograffydd, Iolo Penri.
Meddai Rhys Meirion yn y Rhagair: 'Fel canwr, dwi mewn sefyllfa hynod o foddhaol a breintiedig o gael dehongli geiriau rhai o’n beirdd gorau ni a hynny ar gerddoriaeth rhai o’n cyfansoddwyr gorau ni. Pan mae’r briodas ysbrydoledig yna yn digwydd rhwng geiriau ac alaw, yn aml mae’r cyfuniad yn ein codi – boed yn berfformiwr neu’n wrandawr – i rhyw fyd arall am eiliad, ar garped hud o emosiwn ... Wrth baratoi a dysgu cân newydd, fydda i bob amser yn darllen y geiriau eu hunain fel barddoniaeth yn y lle cyntaf. Does yna ddim byd tebyg i ddarllen darn newydd o farddoniaeth a gadael i’r geiriau, yr acenion, yr odl, y cymariaethau a’r disgrifio greu delweddau yn ein pen sydd yn tanio’n dychymyg, yn lleddfu’n poenau ac yn ein hysbrydoli i wynebu rhyw sialens neu rhyw newid pwysig yn ein bywydau.
Fydda i wrth fy modd yn darllen barddoniaeth o bob math, boed nhw’n gerddi â strwythur iddyn nhw neu’n rhai cwbwl rydd. Mae’r gynghanedd, hefyd, yn dod â phleser pur, ac efallai fod ychydig o waed fy hen daid, Thomas Richards y Wern, sef awdur englynion ‘Ysgyfarnog’ a’r ‘Ci Defaid’ a ddaeth yn fuddugol yr Eisteddfod Genedlaethol, yn rhedeg yn fy ngwythiennau yn hyn o beth.'