CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan

Cyhoeddiadau Barddas

Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan

Pris arferol £11.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781906396978
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2016
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Golygwyd gan E. Wyn James, Christine James
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg

Blodeugerdd sy'n dwyn ynghyd am y tro cyntaf y corff o ganu a grëwyd wrth i'r beirdd ymateb i drychineb Aber-fan.

Tabl Cynnwys:
Rhagair
Rhagymadrodd
PROLOG
YN NHEYRNAS DINIWEIDRWYDD - Rhydwen Williams
Y TIPIAU - D. Gwenallt Jones
PAN OEDDWN FACHGEN - Pennar Davies
NARATIF
TRYCHINEB ABER-FAN - D. Gwenallt Jones
Y CNWD CYNTAF (1966–1973)
ABER-FAN (21 Hydref 1966) - T. Llew Jones
ABER-FAN - Abiah Roderick
HYDREF 21 - Ellis Aethwy Jones
DÜWCH ABER-FAN - Mathonwy Hughes
ABER-FAN - Robert Williams
ABER-FAN - P. J. Beddoe Jones
ABER-FAN – Islwyn Lloyd
TRYCHINEB ABER-FAN - Lisi Jones
TRIOLEDAU I’R FRENHINES - Huw T. Edwards
ABER-FAN - Ithel Davies
ABER-FAN Hydref 1966 - John Fitzgerald
TRYCHINEB ABER-FAN - John Llywelyn Roberts
PLANT ABER-FAN - Glyn Hopkins
TRYCHINEB ERCHYLL ABER-FAN 21 Hydref 1966 - D. T. Jones
ABER-FAN -T. I. Phillips
HYDREF - Jack Oliver
TRYCHINEB ABER-FAN - R. D. Roberts
BALED ABER-FAN - Eric Wyn Roberts
ABER-FAN - Harry Williams
YSGUBAU - Owen D. Timothy
NADOLIG 1966 - D. J. Thomas
NADOLIG ABER-FAN -J. Rhys Jones
NADOLIG 1966 - John Roberts
TYMOR NADOLIG 1966 - Huw Llewelyn Williams
TOMEN MAMON (Aber-fan) - T. E. Nicholas
ABER-FAN - William Jones
TRYCHINEB ABER-FAN - Bobi Jones
ABER-FAN - W. Leslie Richards
ABER-FAN - Wil Morgan
TRYCHINEB ABER-FAN - J. Arthur Thomas
TRYCHINEB ABER-FAN 1966 - S. O. Thomas
ABER-FAN - Nia Wynne Griffiths
CWMWL - 'Rhiandaid', Aberpennar
ABER-FAN - Sioned Roberts
EMYN DIOLCH - T. E. Nicholas
ABER-FAN - Owen Morgan
TRYCHINEB ABER-FAN - (Mrs) M. A. Thomas
YN IEUENCTID Y DYDD (Er cof am blant Aber-fan) - John Hywyn Edwards
FFYLIAID Y DDAEAR Yn Aber-fan, 26 Mehefin 1968 - L. Haydn Lewis
ABER-FAN - Elisabeth Roberts
ABER-FAN - Robert Owen
Y GRAITH (ABER-FAN) - Eifion Roberts
Y TIP (myfyrdod yn ddeunaw oed) - Mair Angharad
ABER-FAN - D. Jacob Davies
I RIENI ABER-FAN - Margaret Bowen Rees
ABER-FAN - Gilbert Ruddock
ADLODD (1974–2016)
ABER-FAN A CHATRAETH - Aled Islwyn
TRYCHINEB ABER-FAN - Roger Jones
ABER-FAN - Aeron Davies
RHOSYNNAU ABER-FAN - Euros Bowen
ABER-FAN - Sheila Douglas / addasiad Siwsann George
YN Y CAR - Geraint Elfyn Jones
TRIDIAU YN ABER-FAN - Emrys Roberts
ABER-FAn - Rhydwen Williams
ABER-FAN - Aled Lewis Evans
ABER-FAN - Delwyn Siôn
ABER-FAN 1989 - Iwan Llwyd
COFIO ABER-FAN (1966–1991) - Alan Llwyd
ABER-FAN II ('Roedd yn caru rhyddid a golau…') - Delwyn Siôn
PENTRE ABER-FAN - Edward Jones
YR ANGLADD - Gwilym Herber Williams
GORCHUDD - Gwilym Herber Williams
Y DWTHWN HWNNW - Dic Jones
METHU (Aber-fan) - Idris Reynolds
TEULUOEDD ABER-FAN - Aron Pritchard
ABER-FAN (HYDREF 21, 1966) - John Phillips
ABER-FAN - Gwyneth Glyn
ABER-FAN - Ceri Wyn Jones
PWLL GLO GER ABER-FAN - Dai Rees Davies
ECO - Emyr Roberts
ATEB (Cofrestr Ysgol Pant-glas, Aber-fan)- Gruffudd Eifion Owen
ABER-FAN - Andrew Shurey
ABER-FAN - O’r cylchgrawn 'Gweidd' (2012)
BETHANIA: ABER-FAN - Christine James
DISGWYL - Christine James
TRYCHINEB - Marged Selway-Jones
PENTREF – Geraint Roberts
ABER-FAN 2016 - Myrddin ap Dafydd
LACRIMOSA 'MABAN GLAN - Mererid Hopwood
EPILOG
SENGHENNYDD - T. Gwynn Jones
Nodiadau ar y Cerddi, y Beirdd a'u Cefndir

Bywgraffiad Awdur:
Mae'r golygyddion ill dau yn academyddion ac yn awduron nodedig. Bu'r ddau ohonynt yn dysgu modiwlau yn yr Adrannau Cymraeg ym Mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd ar lenyddiaeth Cymoedd y De. Pwysicach na hyn yw eu cyswllt personol gyda'r cymoedd cyfagos: Cwm Rhondda yn achos Christine James, lle roedd ei thad yn gyn-löwr; ac y mae gan Wyn yntau gysylltiad â'r pentref nesaf un at Aber-fan.

Gwybodaeth Bellach:
Ym mis Hydref 1966 daeth pentref Aber-fan yn ffocws sylw a chydymdeimlad y byd cyfan yn sgil y ddamwain lofaol fwyaf ingol a fu erioed. Daeth hefyd yn ffocws i gorff o farddoniaeth Gymraeg ddigon trawiadol ac amrywiol wrth i'r beirdd hwythau ymateb i'r drychineb. Diben y gyfrol hon yw cywain y canu hwnnw ynghyd am y tro cyntaf a'i osod o fewn cyd-destun priodol, a hynny adeg 50 mlwyddiant y digwyddiad yn 2016.
Bydd y gyfrol yn cynnwys:
•rhagymadrodd cyffredinol sy'n rhoi portread o bentref Aber-fan ar ganol yr ugeinfed ganrif gan ei osod o fewn fframwaith hanesyddol / cymdeithasol /diwydiannol, a hefyd hanes y drychineb ei hun
•rhagymadrodd beirniadol sy'n cynnig trafodaeth feirniadol ar y cerddi
•casgliad o tua 60 o gerddi: ceir yma ganu caeth a chanu rhydd; englyn ac awdl a chywydd; cerddi hir a rhai byr. Ceir amrywiaeth diddorol hefyd o ran y beirdd a gynrychiolir, sydd yn eithaf croestoriad o ran oed a chefndir a lleoliad daearyddol — rhai ohonynt yn enwau amlwg iawn megis Gwenallt, Bobi Jones ac Iwan Llwyd, ond eraill yn feirdd gwlad digon 'diarffordd'. Mae yma gerddi a gyhoeddwyd ar y pryd a rhai a ymddangosodd ymhen blynyddoedd wedyn. Caiff y cerddi eu rhannu'n adrannau o dan y teitlau: Prolog, Naratif, Y Cnwd Cyntaf (1966-1973), Adlodd, Epilog.
•nodiadau: ar gyfer pob cerdd rhoddir manylion bywgraffyddol cryno am y bardd, a nodi'r man(nau) lle y cyhoeddwyd y gerdd o'r blaen. Cynhwysir hefyd nodiadau dethol ar gyfeiriadaeth yn y cerddi nas trafodwyd eisoes yn y rhagymadrodd beirniadol.
•lluniau (du a gwyn) a fydd yn ychwanegiad gweledol gwerthfawr i'r cerddi.