CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Dafydd Islwyn
ISBN: 9781906396428
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2012
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 282 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol sy'n cloriannu canrif o englyna yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda'r awdur yn olrhain hynt a helynt pob cystadleuaeth a beirniadaeth ers dechrau'r ganrif ddiwethaf.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd yr awdur ei fagu yn Rhoscefnhir, Ynys Mon. Ymgartrefodd ganol y chwedegau ym Margoed, Cwm Rhymni. Gweithiodd yn Nhrelewis a Chaerffili. Ymddeolodd yn gynnar yn 1997 i gael mwy o amser i gyd-weinyddu Barddas; ymchwilio i hanes Bangor City a Wolverhampton Wanderersl; i ysgrifennu colofn fisol i'r 'Arwydd', papur bro Cylch Bodafon, Ynys Mon a 'Tua'r Gorllewin', papur bro Cwm Rhymni, ac wrth gwrs, i gasglu englynion. Ef yw Ysgrifennydd Y Gymdeithas Gerdd Dafod.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma gyfrol sy'n rhoi llwyfan i holl gyfoeth traddodiad yr englyn yn y Brifwyl: traddodiad a esgorodd ar drysorau megis 'Blodau'r Grug' Eifion Wyn, 'Y Llwybr' J.T. Jones, 'Y Gorwel' Dewi Emrys a 'Cwlwm' T. Arfon Williams. O gyfnod aur y beirdd-bregethwyr i binaclau cynhyrchiol megis Eisteddfod Genedlaethol Caerffili, 1950, pan gafwyd 347 o gynigion ar yr englyn ac ymlaen wedyn at drafodaethau ac arbrofi y blynyddoedd mwy diweddar, mae'r awdur yn cyflwyno hanes cenedlaethau o feirdd ac yn codi cwr y llen ar y 'cythraul barddoni'. Dyma gyfrol gan un sydd wedi ymhyfrydu mewn casglu englynion ers blynyddoedd lawer, cyfrol sy'n rhannu hanesion ac yn croniclo hanes ein diwylliant.