CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Fy Llyfr Englynion

Cyhoeddiadau Barddas

Fy Llyfr Englynion

Pris arferol £6.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781911584322 
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Medi 2020
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Golygwyd gan Mererid Hopwood
Darluniwyd gan Alice Samuel
Fformat: Clawr Caled, 178x178 mm, 56 tudalen
Iaith: Cymraeg

♥ Llyfr y Mis i Blant: Hydref 2020
Dyma gyfrol sy'n gasgliad gwerthfawr ac unigryw o englynion i blant gan wahanol feirdd. Mae pob un o'r 22 englyn yn dweud stori neu'n disgrifio, rhai yn englynion y gall plant yr oed hwn uniaethu â hwy a rhai englynion traddodiadol sy'n debygol o fod ar gof cenedlaethau o blant. Yn ogystal, ceir geirfa a nodiadau i helpu'r darllenwyr ifanc.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Tabl Cynnwys:

Fy Llyfr Englynion - Mererid Hopwood
Afal - John Glyn Jones
Blodau’r Grug - Eifion Wyn
Cerddorion Stryd yn Aberystwyth - Dafydd John Pritchard
Cwestiwn - Dic Jones
Cysgod - Karen Owen
Dewis - Ceri Wyn Jones
Dim - Gwydderig
Dinas Dinlle - Gerallt Lloyd Owen
Dyn Eira - Tudur Dylan Jones
Englyn Pos - Dafydd Whittall
Eira - John Glyn Jones
Ffôn - Elin Meek
Gras Wrth Fwrdd Bwyd - W. D. Williams
Llys Ifor Hael - Ieuan Brydydd Hir
Nyth - Roger Jones
Pont Menai - Dewi Wyn o Eifion
Pridd - Philippa Gibson
Y Ci Defaid - Thomas Richards
Y Gorwel - Dewi Emrys
Y Gwely - Mererid Hopwood
Y Pry Cop - Gerallt Lloyd Owen

Bywgraffiad Awdur:
Mae'r Prifardd Mererid Hopwood yn awdur poblogaidd iawn ac wedi ysgrifennu a golygu nifer helaeth o gyfrolau i blant. Cafodd ei geni a'i magu yng Nghaerdydd ond bellach mae hi'n byw yng Nghaerfyrddin ac yn dysgu ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Hi yw'r ferch gyntaf i gyflawni'r gamp o ennill tair prif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol.