CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Hen Englynion - Diweddariadau

Gwyn Thomas

Hen Englynion - Diweddariadau

Pris arferol £7.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gwyn Thomas

ISBN: 9781906396749
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Ebrill 2015
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg

Diweddariadau o englynion hynaf yr iaith Gymraeg gyda rhagymadrodd gwerthfawr iddynt. Cynhwysir canu crefyddol, canu natur a gwirebau, ynghyd ag englynion sy'n gysylltiedig â chwedlau, yn benodol y tri chylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd.

Tabl Cynnwys:
CANU CREFYDDOL
Naw Englyn y Juvencus
Cyntaf Gair
Cynefin Ceinaf Amser
Cynogion. Elaeth a'u Cant
Dryll o Ddadl y Corff a'r Enaid
Cysul Addaon 1
Cysul Addaon 2
Penyd Llywelyn a Gwrnerth 1
Penyd Llywelyn a Gwrnerth 2
Mab Mair
Ymddiddan Arthur a'r Eryr

CANU NATUR A GWIREBAU
Llym Awel
Eira Mynydd
Bidiau 1
Bidiau 2
Y ‘Gnodiau’
Calan Gaeaf
Calan Gaeaf a’r Misoedd
Baglawg Byddin
Gorwynion
‘Englynion y Misoedd’
Englynion y Clywaid

ENGLYNION SYDD Â CHYSYLLTIAD Â CHWEDLAU
Tri Englyn y Juvencus
Englynion Beddau
Dinas Maon
Geraint fab Erbin
Ysgolan
Gwallog a’r Ŵydd
Ymddiddan rhwng Gwyddno Garanhir a Gwyn ap Nudd
Ymddiddan Ugnach (neu Wgnach) a Thaliesin
Boddi Maes Gwyddno

CANU LLYWARCH HEN
Gwên ap llywarch a’i Dad
Marwnad Gwên
Pyll
Llywarch a Maen
Beddau, neu Amryfal Englynion am Feibion Llywarch
Enwau meibion Llywarch
Gwahodd Llywarch i Lanfawr (neu Lanfor)
Cân yr Henwr
Claf Abercuawg

CANU URIEN
Unhwch
Pen Urien
Celain Urien
Anoeth
Efrddyl, neu Efyrddyl
Rhun, neu Marwnad Rhun
Anaf, neu Englyn Crwydr
Dwy Blaid
Elgno, neu Elno
Diffaith Aelwyd Rheged

CANU HELEDD
Cynddylan
Stafell Gynddylan
Eryr Eli
Eryr Penwgern
Eglwysau Basa
Y Dref Wen
Ffreuer
Bugeiles Lom, neu Hel Gwartheg
Afonydd
Newid Byd
Gorwynion
Gyrthmwl
Ercal
Heledd, neu Heledd Hwyedig
Gorsedd Orwynion
Syllu
Dinlleu Frecon
Heledd, neu Brodyr Heledd
Hedyn, Epigram
Caranfael, neu Gwâl Twrch
Heledd a’i Brawd Claf
Beddau Maes Maoddyn, neu Beddau
Trenn
Chwiorydd Heledd
Cynddylan a Chynwraith
Maes Cogwy
Llemenig

Englynion Cadwallon

Bywgraffiad Awdur:
Mae Gwyn Thomas yn fardd, yn feirniad ac yn academydd o’r radd flaenaf. Ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor tan ei ymddeoliad. Fel un sy’n awdurdod ar y Traddodiad Barddol yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth lenyddol, ac y mae’n parhau i fod yn gynhyrchiol fel awdur. Cafodd Gwyn Thomas ei enwebu yn ‘Hoff Fardd Cymru’ yn 2014.

Gwybodaeth Bellach:
Yn 1970 cyhoeddwyd y gyfrol arloesol Yr Aelwyd Hon gan olygyddiaeth Gwyn Thomas, oedd yn cynnwys diweddariadau o hen farddoniaeth Gymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan a Gwyn Thomas ei hun, cyfrol sydd wedi bod wrth benelin sawl un wrth astudio’r Gymraeg yn mewn ysgol a phrifysgol. Dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach penderfynodd yr ysgolhaig droi yn ôl unwaith eto at ein barddoniaeth Gymraeg gynnar, y tro hwn gan ganolbwyntio ar y canu englynol cynnar:
“Mi ddechreuais feddwl, unwaith eto, ei bod hi’n bechod ei bod hi’n haws i ddarllenwr Cymraeg gael gafael ar fersiynau dealladwy o’r hen ganu hwn yn Saesneg nag yn Gymraeg. Ac am yr ail waith mi benderfynais geisio cyflwyno cyfran o’n hen ganu ni fel cenedl yn Gymraeg,” meddai yn y Rhagarweiniad i’r gyfrol.

Mae’r hen englynion sydd wedi eu diweddaru yn y gyfrol hon, dros deugain cyfres o englynion i gyd, i’w cael mewn dwy brif lawysgrif, sef Llyfr Du Caerfyrddin (tua 1250) a Llyfr Coch Hergest (rhwng 1382 a thua 1405), ac yn cynnwys canu crefyddol, canu natur a gwireb ac englynion sydd â chysylltiad â chwedlau, ac yn benodol y tri phrif gylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd. Ystyrir y canu englynol hwn ymysg y cerddi canoloesol mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern o safbwynt yr arddull uniongyrchol a hefyd eu cynnwys. Pwysleisia Gwyn Thomas mai’r un peth yn anad dim arall y ceisiodd ei wneud gyda’r diweddariadau newydd yma oedd sicrhau fod yna rythm yn y linellau.