CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Hen Ieithoedd Diflanedig

Mihangel Morgan

Hen Ieithoedd Diflanedig

Pris arferol £7.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Mihangel Morgan

ISBN: 9781911584209
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Medi 2018
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Fformat: Clawr Meddal, 182x134 mm, 64 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfres o ugain cerdd wedi eu cyflwyno i siaradwyr olaf gwahanol ieithoedd ar draws y byd. Trwy gyfrwng dychymyg y bardd clywir lleisiau'r siaradwyr hyn unwaith eto ac, yn ddyfeisgar, eu safbwyntiau dychmygol tuag at eu hieithoedd diflanedig.


Tabl Cynnwys:
Rhagair
Dolly Pentreath (Cernyweg)
Tef-ffic Esens (Ubych)
Ishi (Yana)
Roscinda Nolasquez (Cupeno)
Tuone Udaina (Dalmatieg)
Fidelia Fielding (Mohegan-Pequot)
Armand Lunel (Shuadit)
Marie Smith Jones (Eyac)
Asgwrn y Gynnen (Ayapaneco/Nuumte Oote)
Big Bill Neidjie (Gaagudju)
Viktors Bertholds (Lifonaeg)
Shanawdithit (Beothuc)
Walter Sutherland (Norn)
William Rozario (Cochin indo-Portiwgaeg Creol)
Eleanor Karran (Manaweg)
Tommy Leece (Manaweg)
Harry Boyde (Manaweg)
John Kneen (Manaweg)
Sage Kinvig (Manaweg)
Ned Maddrell (Manaweg)

Bywgraffiad Awdur:
Mae Mihangel Morgan yn ysgolhaig, yn llenor ac fardd adnabyddus. Wedi cyfnod fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, mae bellach yn byw yn Aberdâr. Cyhoeddodd gasgliadau o farddoniaeth ar ddechrau ei yrfa lenyddol, sef Diflaniad Fy Fi yn 1988 a Beth yw Rhif Ffôn Duw? yn 1991. Rhyddiaith – nofelau a straeon byrion – fu ei brif gyfrwng wedi hynny, ond fe ddychwelodd at farddoniaeth rai blynyddoedd yn ôl gyda chyfrol ddigri i blant, Creision Hud, yn 2001 a’r gyfrol ddychanol Digon o Fwydod yn 2005. Mae Hen Ieithoedd Diflanedig yn gyfrol newydd sbon o farddoniaeth sy’n archwilio pwnc trist a brawychus, sef tynged gwahanol ieithoedd lleafrifol ar draws y byd.