CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Llên yr Uchelwyr - Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525

Dafydd Johnston

Llên yr Uchelwyr - Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525

Pris arferol £29.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Dafydd Johnston
ISBN: 9781783160525
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Mawrth 2014
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 234x156 mm, 512 tudalen
Iaith: Cymraeg
Gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed oedd uchafbwynt traddodiad barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol. Dyma gyfrol sy'n cynnig darlun cynhwysfawr o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw yn ei holl agweddau. Rhoddir ystyriaeth fanwl i rai o gewri'r cywydd: Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled. Argraffiad newydd.
Bywgraffiad Awdur:
1 Y Cefndir Hanesyddol
2 Y Gyfundrefn Farddol
3 Parhad Traddodiad yr Awdl a'r Englyn
4 Y Cywydd
5 Dafydd ap Gwilym
6 Canu Serch y Cywyddwyr Cynnar
7 Canu Mawl y Cywyddwyr Cynnar
8 Y Canu Crefyddol
9 Beirdd y Bymthegfed Ganrif
10 Genres a Chonfensiynau 1: Y Canu Mawl
11 Genres a Chonfensiynau 2: Canu Serch y Bymthegfed Ganrif
12 Proffwydoliaeth a Phropaganda
13 Dychan ac Ymryson
14 Cyfnod y Tuduriaid
15 Rhyddiaith
Gwybodaeth Bellach:
Gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed oedd uchafbwynt traddodiad barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol. Dyma ailargraffiad y gyfrol gyntaf i gynnig darlun cynhwysfawr ac awdurdodol o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw yn ei holl agweddau. Rhoddir ystyriaeth fanwl i rai o gewri'r cywydd megis Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled, a sonnir yn ogystal am lu o feirdd mawr a man a'r tai lle caent groeso ar eu teithiau clera ar hyd a lled y wlad. Dyfynnir llawer o gerddi difyr, rhai ohonynt yn haeddiannol enwog ac eraill sy'n derbyn sylw yma am y tro cyntaf. Trafodir rhychwant eang o farddoniaeth, yn fawl a marwnad urddasol, yn ganu gofyn ffraeth, yn ganu crefyddol dwys, yn broffwydoliaethau gwleidyddol, yn ganu serch ac yn ganu dychan deifiol. Rhoddir cyfrif hefyd am y rhyddiaith amrywiol sy'n ddrych i ddiwylliant cyfoethog y cyfnod.