CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Eurig Salisbury
ISBN: 9781911584285
Dyddiad Cyhoeddi: Mai 2020
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Fformat: Clawr Meddal, 183x133 mm, 112 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol o farddoniaeth hirddisgwyliedig o gynnyrch mwyaf diweddar y bardd poblogaidd a'r ysgolhaig, Eurig Salisbury. Hon yw ei ail gyfrol o gerddi wedi iddo gyhoeddi ei gyfrol gyntaf, Llyfr Glas Eurig, yn 2008.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Eurig yn ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Yn fardd poblogaidd, mae'n cyfrannu'n gyson i nosweithiau barddol ac yn aelod o dîm Y Glêr ar raglen Y Talwrn. Mae hefyd yn cyd-gyflwyno podlediad Clera gyda'i gyfaill, Aneirin Karadog. Mae wedi cael cryn lwyddiant yn eisteddfodau'r gorffennol gan ddod yn agos iawn i ennill y Gadair ar sawl achlysur ac yn 2016 fe enillodd y Fedal Ryddiaith gyda'i nofel Cai. Mae hefyd yn arbenigwr ar y gynghanedd ac yn ymddiddori'n helaeth mewn barddoniaeth ganoloesol.