CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Mwy o Hoff Gerddi Cymru

Gomer

Mwy o Hoff Gerddi Cymru

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781848512955
Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 2010
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Golygwyd gan Elinor Wyn Reynolds
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 140 tudalen
Iaith: Cymraeg

Ddeng mlynedd ers cyhoeddi Hoff Gerddi Cymru, dyma ddilyniant yn cynnwys mwy o gerddi sy'n annwyl gan y genedl. Bydd y casgliad yn rhychwantu'r digrif a'r difrifol, cerddi hir a cherddi byr, hen ffefrynnau a thrysorau newydd.

Gwybodaeth Bellach:
Y CYMRY’N DEWIS MWY O’U HOFF GERDDI

Ddeng mlynedd wedi cyhoeddi’r gyfrol hynod boblogaidd Hoff Gerddi Cymru, mae Gwasg Gomer wedi mynd ati i gasglu mwy o ffefrynnau’r genedl mewn ail gyfrol. Yn Mwy o Hoff Gerddi Cymru, ceir bron i gant o gerddi llon a lleddf, digri a dwys.

O gerddi traddodiadol i hen benillion, ac o gerddi prifeirdd megis Dic Jones, Mererid Hopwood, T. James Jones a Ceri Wyn Jones i waith gan Iwan Llwyd, Angharad Jones, Twm Morys a Geraint Lovgreen ynghyd â hen ffefrynnau gan T.H. Parry Williams, R. Williams Parry, Gwenallt a Waldo, dyma drysor arall o gyfrol i fwynhau drwy’r Nadolig ac ymhell tu hwnt.