CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Gerallt Lloyd Owen
ISBN: 9781906396817
Dyddiad Cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Caled, 192x130 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol o gerddi'r diweddar Gerallt Lloyd Owen (1944-2014), sy'n pontio'r 23 o flynyddoedd ers cyhoeddi'r gyfrol Cilmeri a Cherddi Eraill, gyda'r cerddi mwyaf diweddar wedi'u llunio ychydig fisoedd yn unig cyn ei farwolaeth.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Cyhoeddwyd nifer o’r cerddi amlycaf eisoes (er enghraifft yn Barddas a Taliesin a’r Cymro); yn eu plith ei gywyddau gorchestol i Bedwyr Lewis Jones, Dic Jones, a’r Cywydd Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005.Fel y cerddi yn ei gyfrolau blaenorol, mae’r cerddi hyn yn ymdrin â'r chymreictod a chenedlaetholdeb, iaith, parhad, arwyr cenedlaethol, arwyr lleol, marwolaeth a cholled, crefydd, cof a thraddodiad. Mae ymdeimlo â breuder y pethau hynny sydd gennym ar ôl yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol yn llinyn cyswllt rhwng nifer o gerddi’r casgliad hwn. Y mae yma hefyd ymwybyddiaeth ddofn o freuder bywyd dyn, ac o golli cyfeillion a chydnabod.
Mae’r gyfrol hon yn pontio ystod o 23 o flynyddoedd ers cyhoeddi’r gyfrol Cilmeri a Cherddi Eraill. Ynddi, cynhwysir:
• 30 englyn unigol
• 5 cyfres o englynion
• 8 cywydd
• 2 gerdd rydd
• 22 o gwpledi/llinellau unigol (gwirebau)
gyda’r cerddi mwyaf diweddar yn cael eu hysgrifennu ychydig fisoedd yn unig cyn ei farwolaeth.