CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Fi ac Aaron Ramsey

Manon Steffan Ros

Fi ac Aaron Ramsey

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros

ISBN: 9781784618599
Dyddiad Cyhoeddi: 05 Mehefin 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 185x123 mm, 136 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae'r stori'n ymwneud â Sam a Mo, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae perthynas y ddau fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Mae Manon Steffan Ros yn awdures doreithiog, wedi cyhoeddi nifer o nofelau i bobl ifainc ac i oedolion, yn gantores, yn ddramodydd, yn awdures lawn-amser, ac yn cyhoeddi colofn wythnosol yn Golwg. Enillodd Wobr Tir na n-Og am ei nofel ddiweddaraf ar gyfer yr oed targed yma, sef Pluen, hefyd Trwy’r Tonnau yn 2010, a Prism yn 2012. Enillodd Wobr y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2010 am ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn a’r wobr Ffuglen am Blasu yn 2013. Mae’n byw yn Nhywyn gydag Efan a Ger, eu meibion.

Gwybodaeth Bellach:
Nofel arall gan yr awdures boblogaidd, gyda phêl-droed yn ganolog iddi, gan anelu at fechgyn, yn bennaf.
Mae’r gyfrol wedi’i hanelu at ddarllenwyr da diwedd CA2 a Bl. 7-9.