Awdur: Saunders Lewis
ISBN: 9781904554219
Dyddiad Cyhoeddi: 31 Mawrth 2017
Cyhoeddwr: Gwasg Gee, Bethesda
Fformat: Clawr Meddal, 187x125 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg
Drama mewn pedair act. O blith ein chwedlau mae'n siwr mai stori Blodeuwedd yw'r un sydd wedi ei hadrodd amlaf o genhedlaeth i genhedlaeth. O blith ein dramâu, fe dybiwn hefyd mai Blodeuwedd sydd wedi ei llwyfannu fwyaf cyson o blith ein clasuron. Dyma argraffiad newydd o ddrama glasurol gan Saunders Lewis, gyda rhagair gan Arwel Gruffydd.
Gwybodaeth Bellach:
O blith ein chwedlau mae'n siŵr mai stori Blodeuwedd yw'r un sydd wedi ei hadrodd amlaf o genhedlaeth i genhedlaeth. O blith ein dramâu, fe dybiwn hefyd mai Blodeuwedd sydd wedi ei llwyfannu fwyaf cyson o blith ein clasuron. Mae actorion amatur a phroffesiynol yn ysu am y cyfle i fynd dan groen y cymeriadau, ac i fynd i'r afael â'r ddrama fydryddol hynotaf yn yr iaith Gymraeg. Saith deg mlynedd wedi ei chyhoeddi gyntaf mae'r ddrama hon yr un mor apelgar, a llais Saunders ei hun fel llais rhyw 'wyddon-ddewin' yn canu drwy'r gwaith. 'Meistr cyfrinion' geiriau sydd yma wrth ei waith, yn ein swyno a'n synnu ni bob tro y byddwn yn ailymweld â'i hynodrwydd.