CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Branwen

Atebol

Branwen

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Aidan Saunders

ISBN: 9781912261994
Dyddiad Cyhoeddi: Ebrill 2020
Cyhoeddwr: Atebol, Aberystwyth
Darluniwyd gan Aidan Saunders
Fformat: Clawr Meddal, 310x180 mm, 36 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

 Llyfr y Mis i Blant: Mehefin 2020
Mae'r llyfr hwn yn gynrychiolaeth graffig o ail gangen y Mabinogion, Branwen, merch Llyr. Nod y llyfr yw cyflwyno plant a phobl ifanc i storïau'r Mabinogion ac ail-ddweud y straeon hynod weledol ac emosiynol hyn i gynulleidfaoedd modern gan ddefnyddio gwaith celf sy'n deillio o arteffactau hanesyddol go iawn.

A graphic representation of the second branch of the Mabinogion - Branwen, daughter of Llŷr. The aim of the book is to present the Mabinogion tales to young people, and to retell these highly visual and emotional stories to today's audience using art work originating from truly historical artefacts.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Aidan yn ddarlunydd ac argraffydd Cymraeg sy’n fwyaf adnabyddus am ei brosiect print teithiol Print Wagon a’r Golden Thread Project; prosiect cydweithredol gyda ZEEL yn seiliedig ar ganeuon a diwylliant gwerin. Bellach, mae’n byw yn Llundain ac mae wedi datblygu gariad at fytholeg Gymreig. Mae ganddo awydd i ddarganfod ei wreiddiau Cymreig ac addysgu pobl trwy gelf a darlunio am chwedlau’r Mabinogi.
Gwybodaeth Bellach:
• Testun dwyieithog
• Arlunwaith lliwgar, llachar a thrawiadol gyda chyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol