Gwasg Carreg Gwalch
Chwedlau Cymru: Ceffylau
Awdur: Fiona Collins
ISBN: 9781845277918
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Ebrill 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Golygwyd gan Nia Parry
Darluniwyd gan Natalie Griffiths
Fformat: Clawr Meddal, 212x150 mm, 50 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dyma chwe chwedl neu stori o Gymru. Chwedlau am geffylau. Chwedlau am bobl enwog yn hanes Cymru – fel y Brenin Arthur. Mae’r chwedlau’n dod o sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Castell-nedd, Port Talbot a Dyfed. Rwyt ti’n gallu darllen chwedl am dy ardal di. Mae’n bwysig gwybod am dy ardal. Mae’n bwysig gwybod am chwedlau dy ardal. Addas ar gyfer Dysgwyr Cymraeg.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Fiona Collins yn byw ger Corwen, yn Sir Ddinbych. Mae hi wedi dysgu Cymraeg.
Mae hi'n hoffi chwedlau neu storïau o Gymru yn fawr iawn.
Ers y 1990au, mae hi'n gweithio fel chwedleuwr. Mae hi'n dweud hen straeon wrth bobl.
Mae hi hefyd yn mwynhau cerdded, darllen a nofio.
Dyma ei llyfr Cymraeg cyntaf.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma gyfrol o chwe chwedl Cymreig yn ymwneud â cheffylau a marchogion Cymru. Addaswyd y straeon gan y storiwraig Fiona Collins, sydd hefyd yn ddysgwraig ac yn enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019.
Galan Mai mynychodd Fiona gwrs undydd Zoom i awduron cyfres Amdani gyda'r bwriad o gyfansoddi cyfrol lefel Mynediad ac aeth ati i gynhyrchu'r testun wedi hyn. Cafodd Fiona ei mentora gan Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac Eirian Conlon, tiwtor hynod brofiadol sydd hefyd yn darparu deunyddiau addysgiadol i'r Ganolfan. Rydym hefyd wedi penodi Nia Parry fel golygydd sydd eisoes â phrofiad o olygu sawl llyfr ar draws y lefelau o Mynediad hyd at Canolradd i gydweithio â Fiona a Natalie a rheoli'r prosiect. Mae hi eisoes wedi bod yn trafod amserlen fanwl gyda Natalie a Fiona ac wedi cytuno ar gynllun gwaith ac amserlen.
Dywedir o hyd fod dysgu Cymraeg yn allwedd i fyd newydd ac i'n hanes a'n diwylliant a'n treftadaeth hi. I nifer, nid gwersi iaith ydyn nhw yn unig. Mae gan nifer fawr o ddysgwyr ddiddordeb brwd mewn dysgu am hanes a chwedloniaeth Cymru yn ogystal â defnyddio'r iaith i gyfathrebu o ddydd i ddydd. Noder nad oes fersiynau Saesneg llawn o rai o'r chwedlau sy'n cael eu cynnwys yn y llyfr hwn yn bodoli hyd yn oed. Canolbwyntiwyd ar chwedlau meirch, gan roi undod i'r casgliad a hefyd sicrhau bod yr un geiriau newydd yn ailymddangos mewn mwy nag un o'r chwedlau.